Dylai'r BBC wario £30 miliwn yn ychwanegol yng Nghymru, meddai un o Bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 02/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/03/2016

BBC Roath Lock StudiosDylai'r BBC wario £30 miliwn yn ychwanegol ar raglenni yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol. 

Mae'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi bod yn ystyried yr effaith bosibl y bydd y trafodaethau ar adnewyddu Siarter Frenhinol y BBC yn ei chael ar Gymru.

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad fod gan y BBC safle sy'n unigryw yng Nghymru o ran ei bwysigrwydd - mae cynulleidfaoedd Cymru'n defnyddio cyfran fwy o wasanaethau'r BBC na chynulleidfaoedd yng nghenhedloedd a rhanbarthau eraill y Deyrnas Unedig. 

Yn ogystal, mae diffyg lluosogrwydd yn y cyfryngau yng Nghymru yn golygu bod y cyhoedd yng Nghymru yn ddibynnol ar y BBC i raddau mwy nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig, yn enwedig o ran newyddion a materion cyfoes. 

O gofio'r sefyllfa hon, mae'r Pwyllgor yn credu ei bod yn ddyletswydd ar y BBC i sicrhau bod ei allbwn yn adlewyrchu amrywiaeth bywyd a diwylliant Cymru. Yn hyn o beth daeth aelodau'r Pwyllgor i'r casgliad bod y BBC wedi methu cyflawni ei rwymedigaethau.

Mae wedi argymell y dylid cryfhau'r datganiad ynglŷn â dibenion cyhoeddus y BBC i sicrhau bod y gorfforaeth yn adlewyrchu, yn cynrychioli ac yn gwasanaethu anghenion y Deyrnas Unedig, ei chenhedloedd, ei rhanbarthau a'i chymunedau.

Mae Aelodau hefyd am weld targedau penodol a mesuradwy ar gyfer portreadu Cymru yn ei raglenni rhwydwaith. Dylai gyflwyno adroddiad yn flynyddol ar y cynnydd yn erbyn y targedau hyn i bwyllgor cyfathrebu ymroddedig yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Ystyriodd y Pwyllgor y mater o gomisiynu hefyd. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai'r BBC ddatganoli trefniadau i sicrhau bod comisiynwyr rhwydwaith ar gyfer y cenhedloedd a'r rhanbarthau wedi'u lleoli yn y gwledydd a'r rhanbarthau hynny.

"Efallai yn fwy nag unrhyw wlad arall yn y DU, mae gan y BBC safle sy'n unigryw yng Nghymru o ran ei bwysigrwydd o gofio diffyg lluosogrwydd y cyfryngau, a'r graddau y mae cynulleidfaoedd yng Nghymru yn defnyddio cyfran fwy o wasanaethau'r BBC," meddai Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

"Mae'r dirywiad sylweddol o ran buddsoddiad y BBC mewn rhaglenni Saesneg dros y deng mlynedd diwethaf wedi arwain at lai o oriau o raglenni sy'n benodol am Gymru ac amserlen sydd wedi methu cynnig disgrifiad ac archwiliad digonol o fywydau a phrofiadau cymunedau Cymru, nac o'r newid yn y tirwedd gwleidyddol ar ôl datganoli.

"Mae'r dirywiad hwn mewn buddsoddiadau wedi bod yn fwy difrifol yng Nghymru nag yng nghenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig. Er bod Gweithrediaeth y BBC wedi cydnabod y diffygion hyn yn gyhoeddus ers peth amser, nid yw'n ymddangos ei bod wedi gwneud fawr ddim i fynd i'r afael â hwy.

"Mae'r Pwyllgor yn dod i'r casgliad, nid yn unig bod ymrwymiad y BBC i'r cenhedloedd i sicrhau "eu bod yn cael eu torri llai nag mewn mannau eraill"  yn  annerbyniol, ond y dylai £30 miliwn arall gael ei wario ar wasanaethau i Gymru."

Cafodd dyfodol S4C hefyd ei ystyried gan y Pwyllgor, gydag Aelodau'n argymhell, fel rhan o adolygiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig o gylch gorchwyl, llywodraethiant a chyllid S4C, y dylai anghenion ariannu S4C yn y dyfodol gael eu hystyried ar sail eu teilyngdod eu hunain, ar wahân i ddarpariaeth gwasanaethau cyffredinol y BBC ar gyfer Cymru.     

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 12 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • Dylai'r BBC ddatblygu targedau penodol a mesuradwy ar gyfer portreadu Cymru yn ei raglenni rhwydwaith. Dylai gyflwyno adroddiad yn flynyddol ar y cynnydd yn erbyn y targedau hyn;
  • Mae'r Pwyllgor yn cefnogi'r symudiad tuag at strwythur ffederal ar gyfer y BBC. O dan strwythur o'r fath, dylai mwy o rym a chyfrifoldeb gael eu trosglwyddo i BBC Cymru Wales, gan ei alluogi i gael mwy o reolaeth olygyddol dros waith comisiynu a phenderfynu; a
  • Dylai'r BBC gyflwyno adroddiad ar ei allbynnau a'i weithrediadau sy'n berthnasol i Gymru i'r Cynulliad yn flynyddol, a darparu datganiad archwiliedig o gyfrifon.

Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Adolygiad o Siarter y BBC (PDF, 682KB)

Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar gael yma