Ethol Pwyllgor GCD newydd
Mae’r Cynulliad wedi ethol Pwyllgor heddiw i edrych ar y ddeddfwriaeth arfaethedig ynghylch codi tâl am wasanaethau gofal cartref yng Nghymru. Aelodau’r Pwyllgor yw: Peter Black, Dai Lloyd, Jonathan Morgan, Karen Sinclair a Joyce Watson.
Mae codi tâl am wasanaethau gofal cartref a gwasanaethau cymdeithasol dibreswyl eraill ar hyn o bryd yn fater o ddewis gan awdurdodau lleol unigol. Mae hyn wedi arwain at amrywiadau mawr mewn polisïau codi tâl am wasanaethau tebyg ar draws Cymru.
Byddai’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig - Codi Tâl am Ofal Cymdeithasol Dibreswyl (Gofal Cartref) - yn galluogi’r Cynulliad i gyflwyno deddfau, a elwir yn Fesurau, i reoleiddio gosod prisiau fesul cyngor a chael gwared â’r gwahaniaeth sy’n bodoli. Mae Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol yn fath o is-ddeddfwriaeth sy’n trosglwyddo pwerau penodol o San Steffan i’r Cynulliad.
Rôl y Pwyllgor fydd ystyried a chyflwyno adroddiad ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig. Bydd yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ac yn derbyn tystiolaeth gan unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb.