Ethol Pwyllgor GCD newydd

Cyhoeddwyd 05/12/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ethol Pwyllgor GCD newydd

Mae’r Cynulliad wedi ethol Pwyllgor heddiw i edrych ar y ddeddfwriaeth arfaethedig ynghylch codi tâl am wasanaethau gofal cartref yng Nghymru. Aelodau’r Pwyllgor yw: Peter Black, Dai Lloyd, Jonathan Morgan, Karen Sinclair a Joyce Watson.

Mae codi tâl am wasanaethau gofal cartref a gwasanaethau cymdeithasol dibreswyl eraill ar hyn o bryd yn fater o ddewis gan awdurdodau lleol unigol. Mae hyn wedi arwain at amrywiadau mawr mewn polisïau codi tâl am wasanaethau tebyg ar draws Cymru.

Byddai’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig - Codi Tâl am Ofal Cymdeithasol Dibreswyl (Gofal Cartref) - yn galluogi’r Cynulliad i gyflwyno deddfau, a elwir yn Fesurau, i reoleiddio gosod prisiau fesul cyngor a chael gwared â’r gwahaniaeth sy’n bodoli.  Mae Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol yn fath o is-ddeddfwriaeth sy’n trosglwyddo pwerau penodol o San Steffan i’r Cynulliad.

Rôl y Pwyllgor fydd ystyried a chyflwyno adroddiad ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig. Bydd yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ac yn derbyn tystiolaeth gan unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb.