Faint o gymorth sydd ar gael i ofalwyr yng Nghymru? – ymchwiliad newydd gan un o bwyllgorau'r Cynulliad

Cyhoeddwyd 17/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

​Bydd ymchwiliad newydd gan un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn edrych ar y cymorth a'r wybodaeth sydd ar gael i ofalwyr yng Nghymru.

Cryfhaodd y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2016, y cymorth sydd ar gael i ofalwyr ym maes gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys darparu hawliau iddynt gael asesiadau a chymorth mewn perthynas ag anghenion cymwys.

Mae'r Ddeddf yn ehangu'r diffiniad o "ofalwr" sydd i'w weld mewn deddfwriaeth flaenorol er mwyn cynnwys y rhai "sy'n darparu neu'n bwriadu darparu gofal i oedolyn neu blentyn anabl", a hynny er mwyn sicrhau nad yw'r term bellach yn gyfyngedig i'r rhai sy'n darparu "swm sylweddol o ofal yn rheolaidd".

Mae tystiolaeth a gyflwynwyd yn ddiweddar i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn awgrymu bod tua 370,000 o ofalwyr ledled y wlad, ond mai dim ond 6,200 ohonynt sydd wedi cael asesiad, a dim ond 1,200 o'r rheiny sydd wedi cael cynnig o gymorth.

Yn ystod yr ymchwiliad hwn, bydd y Pwyllgor yn ystyried y materion a ganlyn:

  • Effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar ofalwyr o bob oed yng Nghymru, gan gynnwys:

  • Asesu angen;

  • Darparu cymorth, gan gynnwys gofal seibiant;

  • Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth;

  • Gwybodaeth a gesglir gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol am ofalwyr a'u hanghenion; a,

  • Polisi ehangach Llywodraeth Cymru ar ofalwyr.

 

"Mae angen gofalu am ofalwyr hefyd. Mae angen sicrhau bod y cymorth a'r wybodaeth gywir ar gael iddynt, a hynny er mwyn rhoi cyfle iddynt ganolbwyntio ar ofalu am eu hanwyliaid," meddai Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

"Mae'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn cryfhau'r cymorth gofal cymdeithasol sydd ar gael i ofalwyr, yn ehangu'r diffiniad ar gyfer 'gofalwr' ac yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud asesiadau o ofal ac anghenion pobl, gan gynnwys gofalwyr.

"Rydym am wybod pa mor effeithiol yw'r gyfraith hon, p'un a yw'r cymorth cywir ar gael i ofalwyr, gan gynnwys gofal seibiant pan fo angen, a pha wybodaeth a chefnogaeth sydd ar gael.

"Dylai'r ymchwiliad hwn fod o ddiddordeb i unrhyw un sy'n ofalwr, unrhyw un sy'n adnabod gofalwr, neu unrhyw un sy'n cael gofal, ac rwyf yn eu hannog i gymryd rhan a chynorthwyo'r broses o lunio ein canfyddiadau."

Dylai unrhyw un sydd am gyfrannu at yr ymchwiliad fynd i dudalennau gwe'r Pwyllgor am ragor o wybodaeth.

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cau ar 20 Medi 2018.

 



Hoffem ni clywed gennych chi.

Cymerwch ran yn ymgynghoriad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar faint o gymorth a gwybodaeth sydd ar gael i helpu gofalwyr yng Nghymru..

Rhagor o wybodaeth ›