Ffyrdd y Cynulliad o weithio – arloesol, effeithiol a hygyrch?

Cyhoeddwyd 23/06/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ffyrdd y Cynulliad o weithio – arloesol, effeithiol a hygyrch?

23 Mehefin 2010

Wrth i ni wynebu ail ddegawd o ddatganoli yng Nghymru, pa newidiadau yr hoffech eu gweld yn y ffordd y mae’r Cynulliad yn gweithio?

Hwn yw’r cwestiwn y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ei ofyn fel rhan o’i adolygiad i’r Rheolau Sefydlog, y rheolau sy’n llywodraethu’r ffordd y mae’n gweithio.

Mae’r Pwyllgor Busnes am glywed gan sefydliadau neu unigolion sydd â syniadau am sut y gellir gwneud y Cynulliad yn haws i’w ddeall, yn fwy hygyrch ac yn fwy effeithiol.

Ymunwch â ni rhwng 12.00 a 13.30 ddydd Gwener 2 Gorffennaf yn y Pierhead, Bae Caerdydd, i drafod sut y gall y Cynulliad wella’r ffordd y mae’n:

  • cynrychioli pobl Cymru;

  • deddfu ar gyfer Cymru; ac

  • yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Yn ystod y drafodaeth hon, a gaiff ei chynnal dros ginio, bydd panel o arbenigwyr, yn cynnwys Dr Ruth Fox (Cymdeithas Hansard), yr Athro Laura McAllister (Prifysgol Lerpwl), Adrian Crompton (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) a chynrychiolydd o Public Affairs Cymru, yn mynegi barn am sut y gellir datblygu’r Rheolau Sefydlog er mwyn cyflawni’r swyddogaethau allweddol hyn. Cynhelir sesiwn cwestiwn ac ateb hefyd i roi cyfle i bobl gyfrannu at y drafodaeth ac i gynnig awgrymiadau arloesol, heriol ac adeiladol ar sut i wella’r ffordd rydym yn gweithio.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Adolygiad o’r Rheolau Sefydlog

RSVP: dydd Gwener 25 Mehefin

Eventsteam@cymru.gsi.gov.uk

029 2089 8563

Adolygiad o Reolau Sefydlog: Nodyn am y digwyddiad yn y Pierhead