Gallai arweiniad cliriach a gwell technolegau leihau nifer y marwolaethau ar y ffyrdd yng Nghymru – yn ôl adroddiad Pwyllgor

Cyhoeddwyd 23/09/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Gallai arweiniad cliriach a gwell technolegau leihau nifer y marwolaethau ar y ffyrdd yng Nghymru – yn ôl adroddiad Pwyllgor

Gallai nifer y marwolaethau ar ffyrdd Cymru gael eu gostwng yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw (23 Medi) gan Bwyllgor Menter a Dysgu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r Pwyllgor yn argymell mwy o gydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, gwasanaethau brys a sefydliadau eraill er mwyn gostwng y cyfartaledd cyflymder ar rwydwaith ffyrdd Cymru.

Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried dulliau arloesol i leihau’r nifer sy’n cael eu hanafu a’u lladd, fel lleihau’r ‘annibendod’ ar ochr y ffordd – y bwriad yn Sweden yw ystyried lleihau nifer yr arwyddion ffyrdd gan y gallai gormodedd ohonynt gyda’i gilydd achosi damweiniau drwy dynnu sylw gyrwyr a’u drysu.

Mae hefyd yn argymell y dylai’r Llywodraeth annog awdurdodau lleol i orfodi parthau 20mya yng nghanol trefi prysur ac ardaloedd preswyl. O ganlyniad i gynllun tebyg yn Hull, mae nifer yr holl anafiadau wedi disgyn 60 y cant.

Un o’r awgrymiadau eraill yn yr adroddiad yw buddsoddi mwy mewn technoleg camera symudol ar y rhwydwaith traffyrdd yng Nghymru, a mwy o ddefnydd o’r dechnoleg honno.  

“Mae’n hawdd rhoi tocyn i rywun am oryrru, ond nid ydym yn credu y bydd hyn yn atal marwolaethau ar y ffyrdd rhag digwydd eto. Credwn mai drwy orfodaeth, ac addysg a gwell cydweithrediad y gallwn sicrhau ffyrdd mwy diogel yng Nghymru,” meddai Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor

“Er mai ffyrdd y DU yw’r ffyrdd diogelaf yn Ewrop, yn ôl yr ystadegau, ni ddylem fodloni ar y clodydd hynny. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru achub ar y cyfle i sicrhau newid gwirioneddol ar ein rhwydwaith ffyrdd a dangos y gallwn arwain y blaen o ran lleihau nifer y damweiniau ar y ffyrdd ynghyd ag allyriadau carbon cerbydau yr un pryd,”

Mae’r adroddiad hefyd yn datgan y dylai Cymru bennu ei thargedau ei hun ar gyfer diogelwch traffig ar y ffyrdd, ac y dylai’r targedau hynny ystyried amgylchiadau arbennig rhwydwaith ffyrdd Cymru.