Gallai cannoedd o fywydau gael eu harbed drwy ddilyn canllawiau ar atal tolchennu gwaed yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 10/10/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Gallai cannoedd o fywydau gael eu harbed drwy ddilyn canllawiau ar atal tolchennu gwaed yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

10 Hydref 2012

Gallai cannoedd o fywydau gael eu harbed yng Nghymru os byddai clinigwyr yn cadw at ganllawiau sefydledig i atal thrombo-emboledd gwythiennol (VTE) yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn ystod ei ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr achoswyd tua 900 o farwolaethau yng Nghymru gan dolchenni gwaed neu thrombo-emboleddau sy'n deillio o'r ysbyty yn 2010, neu'n gysylltiedig â tholchenni. Mae'r ffigur yn sylweddol uwch na chyfanswm nifer y bobl a fu farw o ganlyniad i MRSA, canser y fron neu AIDS yn ystod yr un flwyddyn yng Nghymru.

Clywodd y Pwyllgor y gallai 70 y cant o'r marwolaethau hyn fod wedi'u hosgoi pe bai mesurau ataliol priodol wedi cael eu rhoi ar waith.

Canfu'r Pwyllgor bod y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol wedi cyhoeddi canllawiau yn 2010, yn seiliedig ar gyngor gan nifer o arbenigwyr meddygol amlddisgyblaethol a argymhellodd y dylid rhoi asesiad risg i bob claf. Fodd bynnag, canfu'r Pwyllgor bod y canllawiau hyn yn aml yn cael eu hanwybyddu.

"Ni fydd asesiadau risg yn unig yn sicrhau na fydd cleifion yn cael tolchenni gwaed pan fyddant yn cael gofal yn yr ysbyty. Rhaid ystyried hynny ochr yn ochr â thromboproffylacsis priodol os ydym am arbed bywydau," dywedodd Mark Drakeford AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

"Fodd bynnag, mae gan y Pwyllgor bryderon difrifol am glinigwyr yn anwybyddu'r canllawiau a wnaethpwyd gan eu cyfoedion.

"Rydym hefyd yn pryderu bod dulliau asesu yn anghyson nid yn unig rhwng gwahanol fyrddau iechyd lleol yng Nghymru, ond hefyd rhwng gwahanol adrannau yn yr un ysbyty.

"Felly, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu gweithdrefn safonol i gadw cofnod o achosion o thrombosis sy’n deillio o’r ysbyty ac i leihau nifer yr achosion. Byddai'r weithdrefn yn orfodol ym mhob bwrdd iechyd.

"Rydym hefyd yn credu y dylid blaenoriaethu'r gwaith o fesur perfformiad byrddau iechyd lleol o ran lleihau nifer yr achosion o dolchenni gwaed.

Gwnaeth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol bump argymhelliad yn ei adroddiad:

  • Dylai Llywodraeth Cymru gydnabod pwysigrwydd lleihau nifer yr achosion o thrombosis sy’n deillio o’r ysbyty (HAT) yng Nghymru drwy ystyried o ddifrif p’un a ddylai cydymffurfio â chanllawiau perthnasol NICE fod yn flaenoriaeth haen 1 i fyrddau iechyd, gan reoli eu perfformiad yn erbyn y flaenoriaeth hon. Dylai Llywodraeth Cymru adrodd yn ôl i ni ar ganlyniad ei hystyriaeth i wneud cydymffurfio â chanllawiau NICE yn flaenoriaeth haen 1 ac egluro’r rhesymau dros ei chasgliad;

  • Dylai gweithdrefn safonol gael ei rhoi ar waith i leihau nifer yr achosion o thrombosis sy’n deillio o’r ysbyty yng Nghymru, a’i gwneud yn orfodol i glinigwyr asesu risg ac ystyried rhagnodi thromboproffylacsis priodol – boed yn fecanyddol neu’n gemegol – i bob claf sydd yn yr ysbyty;

  • Dylai byrddau iechyd ddatblygu dull safonedig o ddangos cyfradd thrombosis sy’n deillio o’r ysbyty ar gyfer pob ysbyty yng Nghymru ac ar lefel genedlaethol ledled Cymru gyfan;

  • Dylid cynnal dadansoddiad o wraidd pob achos o thrombo-emboledd gwythiennol (VTE) mewn ysbytai yng Nghymru, neu bob achos o VTE ymysg cleifion o fewn 3 mis iddynt gael eu rhyddhau o’r ysbyty yng Nghymru, i ganfod a ydynt wedi deillio o driniaeth yn yr ysbyty;

  • Ac y dylai Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd gydweithio i godi ymwybyddiaeth ymysg cleifion chlinigwyr o’r risgiau o gael thrombosis sy’n deillio o’r ysbyty (HAT). Dylai hyn fod ar ffurf ymgyrch addysgu’r cyhoedd i wella dealltwriaeth o risgiau HAT a difrifoldeb y broblem.