Gallai mentrau cymdeithasol chwarae rhan mwy blaenllaw yn natblygiad economaidd Cymru, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad
18 Tachwedd 2010
Mae Pwyllgor Menter a Dysgu Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad (18 Tachwedd) sy’n galw am wella’r defnydd o’r sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru.
Canfu’r ymchwiliad gan y grwp trawsbleidiol hwn o Aelodau’r Cynulliad bod y sector – busnesau sydd ag amcanion cymdeithasol yn eu hanfod – â’r potensial i ddarparu atebion arloesol i ddarparu gwasanaethau mewn hinsawdd economaidd anodd, ond nad yw’n cael ei ddefnyddio’n ddigonol gan Lywodraeth Cymru.
Mae’n argymell fod Gweinidogion Cymru’n cynnwys menter gymdeithasol yn Adran yr Economi a Thrafnidiaeth, i roi rhagor o hwb i’r sector.
Roedd y Pwyllgor hefyd yn amau a yw’r gefnogaeth busnes a chyllidol a ddarperir i fentrau cymdeithasol yn ddigonol, ac roedd yn argymell y dylai rhagor o gefnogaeth gychwynnol a chefnogaeth briodol a hygyrch i ddatblygu gael ei darparu mewn pecyn cydlynol a chynhwysfawr.
Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud rhagor i greu awyrgylch sy’n hwyluso adnabod, datblygu a chefnogi entrepreneuriaid cymdeithasol unigol, yn cynnwys gwneud entrepreneuriaeth gymdeithasol yn elfen yn ein gwasanaethau cynghori gyrfaoedd mewn ysgollion a phrifysgolion ac yn ein rhaglenni profiad gwaith.
Clywodd y Pwyllgor yn ystod ei ymchwiliad am lwyddiant Glas Cymru, y cwmni a ffurfiwyd i fod yn berchennog, i gyllido a rheoli Dŵr Cymru.
Mae’n argymell bod Gweinidogion Cymru’n parhau i ymchwilio pa mor drosglwyddadwy yw model busnes Glas Cymru ac yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o’i fuddion ymhlith y rhai sy’n gwneud y prif benderfyniadau.
Dywedodd Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae posibiliadau i fentrau cymdeithasol ddatblygu atebion arloesol a chynaliadwy er mwyn gwneud yn sicr ein bod yn gweld canlyniadau economaidd, amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol cadarnhaol yng Nghymru.
“Mae mentrau cymdeithasol yn gweddu’n dda â gwerthoedd ein cymunedau yng Nghymru a chredwn fod cyfleoedd ar gyfer y math hwn o fodel busnes i wneud cyfraniad mwy o lawer i ddatblygu’r economi nag sy’n digwydd ar hyn o bryd.
“Dangosodd ein hymchwiliad bod ar y sector hwn angen cefnogaeth i oresgyn rhwystrau i ddatblygu, a gobeithio bod ein hargymhellion yn cyfrannu tuag at wireddu posibiliadau’r sector creadigol a deinamig hwn a thuag at gynorthwyo i ddatblygu economi gadarn a chynaliadwy yng Nghymru.”