Gallai pasio Bil Marchnad Fewnol y DU heb gydsyniad y cenhedloedd datganoledig fod yn “niweidiol iawn i'r DU gyfan”

Cyhoeddwyd 13/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Mae cadeiryddion tri o Bwyllgorau’r Senedd wedi ysgrifennu heddiw at gadeiryddion Pwyllgorau allweddol San Steffan, sy'n gyfrifol am faterion cyfansoddiadol a chraffu ar waith Brexit, gan amlinellu pryderon difrifol am Fil Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU, a’r effaith niweidiol y gallai gael ar ddatganoli.

Mae Mick Antoniw AS, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad,  Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a David Rees AS, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi anfon llythyr ar y cyd yn rhybuddio y byddai'r Bil, fel y mae, yn cael effeithiau cyfansoddiadol hirdymor a bod rhaid eu hystyried o ddifri cyn i'r Bil fynd rhagddo ymhellach.

Byddai Mesur Llywodraeth y DU, fel ag y mae, yn gosod cyfyngiadau newydd ar gyfreithiau sy’n cael eu gwneud yn y Senedd, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod y bydd ei Bil yn “creu terfyn newydd ar effaith y ddeddfwriaeth a wneir wrth arfer cymhwysedd deddfwriaethol neu weithredol datganoledig. “

Yn ôl y llythyr gan gadeiryddion Pwyllgorau’r Senedd:

“Rydym yn rhagweld y byddai terfynau o’r fath yn effeithio’n fawr ar allu’r Senedd i lunio deddfau cydlynol a hygyrch sy’n diwallu anghenion a dyheadau dinasyddion Cymru.”

Dylai unrhyw agwedd ar ddeddfwriaeth y DU sy'n effeithio ar feysydd cyfrifoldeb dros y Senedd, yn ôl y confensiwn, gael caniatâd y Senedd. Fodd bynnag, cafodd hyn ei ddiystyru gan Lywodraeth y DU yn achos Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael). Mae'r llythyr gan y cadeiryddion yn nodi nad oes unrhyw gyfiawnhad i hyn ddigwydd eto.

Mae Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon wedi pasio cynigion sy’n gwrthwynebu’r Bil, ac mae Llywodraeth Cymru wedi nodi nad yw mewn sefyllfa i argymell i’r Senedd y dylid cydsynio yng Nghymru.

“Fe gafodd Mesur y Farchnad Fewnol ei dafod yn helaeth yn San Steffan, a mynegwyd pryderon ei fod yn torri cyfraith ryngwladol. Rhaid i ni beidio â gadael i hyn gysgodi'r ffaith y byddai'r Bil hwn gan Lywodraeth y DU – o'i basio fel ag y mae – yn cyfyngu ar allu'r Senedd i basio deddfau sy'n diwallu anghenion a dyheadau dinasyddion Cymru.

“Ry’n ni'n galw ar aelodau o’r ddau Dy yn San Steffan i bwyso ar Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r diffygion sylweddol, gan eu bod nhw’n ymwneud â datganoli.

“Ni ellir anwybyddu’r Senedd, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon yn y broses hon. Os anwybyddir y llywodraethau a’r deddfwrfeydd datganoledig, gallai hynny fod yn niweidiol iawn i’r DU gyfan.” - Mick Antoniw AS, Llyr Gruffydd AS a David Rees AS