Y Siambr

Y Siambr

Gallai pleidleiswyr ddiswyddo Aelodau o’r Senedd os ydyn nhw’n torri’r Cod Ymddygiad

Cyhoeddwyd 23/01/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/01/2025

Heddiw, mae Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd yn lansio adroddiad sy’n galw am system ‘adalw’ newydd a fyddai’n caniatáu i’r Senedd argymell rhoi i bleidleiswyr y gallu i ddewis diswyddo Aelod o’r Senedd (AS) a’i ddisodli os yw’n torri’r Cod Ymddygiad mewn ffordd ddifrifol. 

Mae'r Cod Ymddygiad yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan Aelodau.   

Mae’r Pwyllgor wedi nodi cynlluniau ar gyfer system a fyddai’n caniatáu i’r Senedd ysgogi pleidlais gyhoeddus mewn etholaeth. Byddai'r bleidlais hon yn gofyn i'r cyhoedd a ydyn nhw am ddiswyddo’r Aelod o’r Senedd sydd wedi torri'r Cod Ymddygiad ynteu cadw’r Aelod hwnnw yn y swydd. 

Pe bai’r pleidleiswyr yn penderfynu o blaid diswyddo'r Aelod hwnnw, yna byddai’n cael ei ddisodli gan y person nesaf ar restr ymgeiswyr ei blaid ar gyfer yr etholiad blaenorol.  

Mae’r adroddiad yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth fel y gall y system hon ddod i rym ar ôl yr etholiad nesaf ym mis Mai 2026. 

Dywedodd Hannah Blythyn AS, Cadeirydd Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd:

“Er mwyn i’n Senedd weithio’n dda, rhaid i’r cyhoedd fod â hyder yn ei Haelodau. Rhaid i wleidyddion ymddwyn mewn ffordd weddus a gonest. O beidio a gwneud hynny, dylen nhw fod yn atebol i'r cyhoedd am eu gweithredoedd. 

“Mae’r adroddiad ar adalw yn rhan o raglen barhaus o waith sydd â’r nod o feithrin ymddiriedaeth a thryloywder yng ngweithdrefnau safonau’r Senedd ac yn ein democratiaeth ddatganoledig yn gyffredinol. Mae'n bwysig inni greu system gadarn sy'n golygu bod Aelodau’n gwbl atebol i bobl Cymru.  

“Rhaid i’r Cod Ymddygiad, sy’n nodi’r hyn a ddisgwlir gan Aelodau, ennyn parch. Dyna pam yr ydym o’r farn y dylai’r Senedd gyflwyno system a fyddai’n rhoi i’r cyhoedd yr opsiwn o ddiswyddo Aelodau o’r Senedd sy’n torri’r cod mewn ffordd ddifrifol. 

“Heddiw, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi ein hargymhellion ar waith a chyflwyno deddfwriaeth i gryfhau ein system ac atgyfnerthu hyder y cyhoedd yn Aelodau o’r Senedd.” 

Gwybodaeth glir i bleidleiswyr 

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi argymhellion i sicrhau bod gan bleidleiswyr wybodaeth dda am y rhesymau dros unrhyw bleidlais adalw a bod y papurau pleidleisio yn glir ac yn hawdd eu deall.  
 
Y bwriad yw i’r cynnig weithio ochr yn ochr â system bleidleisio newydd y Senedd, a fydd yn dod i rym yn yr etholiad nesaf ym mis Mai 2026. 

Edrychodd y Pwyllgor ar systemau tebyg mewn gwledydd eraill yn ogystal â’r system sydd ar waith ar hyn o bryd yn San Steffan.  

Wrth ddatblygu argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, clywodd Aelodau’r Pwyllgor Safonau dystiolaeth gan academyddion annibynnol a sefydliadau sydd ag arbenigedd yn y maes hwn. 

Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn ymateb i’r adroddiad a’r argymhellion.

Mae’r adroddiad hwn yn rhan o ymchwiliad manwl Pwyllgor Safonau’r Senedd sy’n edrych ar ystod o faterion:

•    Atebolrwydd Aelodau Unigol (adalw) ac anghymhwyso Aelodau o’r Senedd mewn achos o gamarwain/dichell bwriadol 
•    Rhoddion - y trefniadau ar gyfer cofrestru rhoddion gwleidyddol i Aelodau o’r Senedd 
•    Polisïau Urddas a Pharch 
•    Datgan a chofrestru buddiannau - adolygu a yw'r trefniadau'n dal i fod yn addas i'r diben  
•    Diwygio'r Mesur Comisiynydd Safonau