Galw’r Senedd yn ystod gwyliau'r haf i ddewis Prif Weinidog newydd

Cyhoeddwyd 25/07/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/07/2024   |   Amser darllen munudau

Mae Senedd Cymru wedi cael ei hadalw yn ystod ei gwyliau haf i enwebu Prif Weinidog newydd Cymru, yn dilyn ymddiswyddiad Vaughan Gething AS.

Bydd y Senedd yn cwrdd ar ddydd Mawrth 6 Awst, 2024 am 11:00.

Dywed Elin Jones AS, Llywydd y Senedd:

“Cefais gais gan y Prif Weinidog i adalw’r Senedd er mwyn i Aelodau enwebu’r person nesaf i gymryd rôl Prif Weinidog Cymru. Rwyf wedi derbyn y cais ac rwyf wedi ysgrifennu at Aelodau o’r Senedd i’w hysbysu am yr adalw.”

Gellir adalw’r Senedd yn ystod y toriad, a hynny ar awdurdod y Llywydd, i drafod materion o arwyddocâd cenedlaethol. Yn ei 25 mlynedd, mae’r Senedd wedi cael ei hadalw’n flaenorol i drafod yr ymateb i’r pandemig Covid-19, Brexit a dyfodol y diwydiant dur. Dyma’r tro cyntaf iddi gwrdd yn ystod y toriad i enwebu Prif Weinidog newydd.

Bydd y cyfarfod yn un hybrid, gyda rhai o’r Aelodau’n bresennol yn y Siambr, gyda’r opsiwn i gymryd rhan yn rhithwir hefyd. Bydd aelodau’r cyhoedd yn gallu gwylio trafodion o’r oriel wylio yn y Senedd a bydd y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar senedd.tv

Beth fydd yn digwydd yn y cyfarfod?: Y Senedd yn enwebu Prif Weinidog newydd

Cyn y cyfarfod, bydd angen i’r Prif Weinidog gyflwyno ei ymddiswyddiad swyddogol i’r Brenin. Unwaith y bydd y Brenin yn ei dderbyn, bydd y Llywydd yn hysbysu’r Senedd. Bydd modd enwebu Prif Weinidog newydd yn y cyfarfod ar 6 Awst. 

Yn y cyfarfod, bydd y Llywydd yn gofyn i Aelodau o’r Senedd am enwebiadau i swydd y Prif Weinidog. Gall unrhyw Aelod o'r Senedd enwebu unrhyw Aelod arall i fod yn Brif Weinidog.

Os mai un Aelod a gyflwynir, yna daw'r person hwnnw’n "enwebai". Os cyflwynir mwy nag un Aelod, yna mae’r holl Aelodau o’r Senedd yn pleidleisio drwy alw’r gofrestr, ac eithrio’r Llywydd a’r Dirprwy Lywydd. Caiff yr Aelodau eu galw fesul un i ddatgan pa Aelod y maent yn ei gefnogi.

Ar ôl i'r Senedd ddewis Prif Weinidog newydd, mae'r Llywydd yn ysgrifennu at y Brenin yn argymell bod yr "enwebai" yn dod yn Brif Weinidog. Pan fydd y Brenin wedi penodi'r Prif Weinidog newydd, bydd y Prif Weinidog yna’n dewis Aelodau o'r Senedd i fod yn Weinidogion yn y Cabinet.