Gofal amhriodol a thechnoleg hynafol yn niweidio cleifion y GIG yng Nghymru

Cyhoeddwyd 16/09/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/09/2025

Mae un o Bwyllgoru’r Senedd yn annog ailystyried sut a phryd y caiff cleifion eu rhyddhau o’r ysbyty er mwyn atal pobl rhag cael eu 'rhoi heibio’n gynamserol'.

Clywodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai fod pwyslais ysbytai ar ryddhau gwelyau yn hytrach nag adferiad cleifion yn golygu bod llawer o bobl, a allai wella gyda rhaglen briodol o adsefydlu a dychwelyd adref, yn cael eu hanfon 'dros dro' yn aml i gartrefi gofal preswyl.

Heb unrhyw raglen adfer yn cael ei threfnu yn y cartref preswyl, mae llawer o gleifion yn dirywio i'r cam lle nad ydynt fyth yn gallu dychwelyd adref.      

Mae adroddiad newydd y Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i sicrhau bod y 'lleoliadau gofal canolradd' hyn yn canolbwyntio ar adferiad ac adennill cymaint o annibyniaeth â phosibl, gydag arbenigedd therapiwtig neu nyrsio lle bo hynny'n briodol, er mwyn sicrhau'r gofal gorau posibl i gleifion a gaiff eu rhyddhau.

Gall y diffyg presennol mewn gofal canolradd priodol arwain at ddirywiad cynnar mewn iechyd ac annibyniaeth pobl, sy'n ychwanegu at y costau a’r pwysau y mae’r GIG a gwasanaethau cymdeithasol, yn ôl y Pwyllgor, yn eu hwynebu.

Rhyddhau’n gynnar

Mae rhyddhau’n gynnar o'r ysbyty, gyda'r opsiwn o ddychwelyd i'r ward os bydd y broblem yn ailgodi, wedi cael ei awgrymu gan lawer fel ffordd o wella'r system ryddhau heb anfon cleifion i gartrefi gofal.

Fe wnaeth Lauraine Clarke, o Gydweli, elwa o gael ei rhyddhau'n gynnar o'r ysbyty.

Ar ôl profi rhwystr yn y coluddyn ym mis Mawrth, cafodd ei derbyn i ward yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili tra roedd hi'n gwella.

Dywedodd, "y tro cyntaf y cefais i gynnig yr opsiwn o gael fy rhyddhau, roeddwn i'n eithaf pryderus am y syniad i ddechrau. Y senario gwaethaf fyddai mynd adref, ac i bethau waethygu ac yna gorfod mynd drwy’r Uned Ddamweiniau ac Achosion Brys eto – aros am oriau i gael fy asesu - ac i fynd yn ôl i ble roeddwn i. Ar ôl cael profiadau gwael gydag A&E o'r blaen, doedd dim brys arnaf fi i wneud hynny eto.

"Ond pan wnaethon nhw esbonio eu bod nhw'n gallu fy rhyddhau ac os oeddwn i'n teimlo unrhyw ddirywiad gallwn i ffonio a chael fy rhoi yn ôl ar y ward eto, rhoddodd llawer mwy o hyder i mi. Felly, cytunais i gael fy rhyddhau i wella gartref, ac yn y diwedd, nid oedd angen i mi fynd yn ôl i'r ysbyty.

"Gyda'r system hon, roedd yn golygu un gwely mwy rhydd yn yr ysbyty, ond o bosibl un person yn llai yn mynd trwy A&E pe bai fy nghyflwr wedi gwaethygu."

Dywedodd John Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai,

"Ni ellir lleihau amseroedd aros ysbyty a gwella cyfraddau rhyddhau drwy edrych o fewn waliau ysbyty yn unig. Mae'r system iechyd a gofal cymdeithasol ehangach yn llawn problemau critigol ac anfon cleifion yn gynamserol i gartrefi gofal yw un rhan o'r broblem.

"Fe glywsom hefyd sut mae diffyg staffio cronig yn y sector gofal yn cael ei waethygu gan ddiffyg moderneiddio digidol a dim digon o rannu data rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, a’r effaith negyddol a gaiff hyn i gyd ar gleifion."

Technolegau hynafol

Mae adroddiad y Pwyllgor yn tynnu sylw hefyd at enghreifftiau pryderus o ddiffyg moderneiddio GIG Cymru sy'n effeithio ar ei effeithlonrwydd a gwneud bywydau'n anos i gleifion.

Clywodd y Pwyllgor fod peiriannau ffacs a systemau papur yn dal i gael eu defnyddio, a bod gwybodaeth am gleifion, rhwng ysbytai, meddygon teulu, timau nyrsio cymunedol a byrddau iechyd, yn cael eu dal  yn aml, ar wahanol systemau TG nad ydynt yn hygyrch i'r staff a’r timau amrywliol o dan sylw.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth fod system atgyfeirio electronig yn cael ei defnyddio’n effeithiol yn ardal Cwm Taf Morgannwg, ond nad yw rhai awdurdodau lleol cyfagos yn derbyn yr atgyfeiriadau hyn am fod ganddynt broses wahanol.

Er mwyn lleihau amseroedd aros, dywed yr adroddiad y dylid safoni cofnodion iechyd electronig ac y dylai Llywodraeth Cymru ddangos arweinyddiaeth gryfach a bod â mwy o atebolrwydd dros wella'r defnydd o systemau digidol yn y GIG.

Diffyg tryloywder

Dywedodd llawer o sefydliadau wrth y Pwyllgor y gallai GIG Cymru a’r sector gofal cymdeithasol wneud yn well o ran cyhoeddi'r data y mae'n eu casglu.

Er enghraifft, casglir data ar hyd yr oedi wrth ryddhau o'r ysbyty, ac amseroedd aros ar gyfer asesiadau a gwasanaethau gofal a swyddi gwag, ond ni chaiff y rhain eu cyhoeddi.

Efallai bod uwch bersonél mewn byrddau iechyd yn ymwybodol o’r sefyllfa yn eu hardal eu hunain, ond gan na chaiff y wybodaeth hon ei chyhoeddi'n eang, ni all pobl gymharu a dadansoddi gwahanol ardaloedd i gael darlun cywir o Gymru gyfan.

Mae'r Pwyllgor yn galw hyn yn 'fwlch mewn tryloywder' ac yn annog Llywodraeth Cymru i gyhoeddi data am amseroedd aros ar gyfer asesiadau a gwasanaethau gofal, a lefelau swyddi gwag, er mwyn annog atebolrwydd a gwella cyfraddau rhyddhau o'r ysbyty.

Aeth John Griffiths AS yn ei flaen i ddweud, "Rydym yn parhau’n i deimlo’n rhwystredig bod y GIG a'i bartneriaid, yn yr unfed ganrif ar hugain, yn parhau gyda thechnolegau hynafol - peiriannau ffacs a phrosesau papur - sy'n darnio gofal ac yn oedi gweithredu. Mae'r methiant hwn i fabwysiadu cofnodion gofal electronig safonedig, cysylltiedig yn tanseilio effeithlonrwydd, ond mae hefyd yn peryglu diogelwch cleifion ac yn ymestyn arhosiad diangen yn yr ysbyty.

"Yr un mor bryderus yw'r bwlch parhaus mewn tryloywder: caiff data hanfodol ar oedi wrth ryddhau, amseroedd aros ar gyfer asesiadau, a swyddi gwag y gweithlu eu casglu ond nid eu cyhoeddi, gan rwystro atebolrwydd a gwneud penderfyniadau gwybodus.

"Dim ond drwy fynd i'r afael â'r problemau hyn ar draws y GIG a gofal cymdeithasol y gallwn symud tuag at wasanaeth modern sy'n cyflawni ar gyfer pobl Cymru."

Mwy am y stori yma 

Darllenwch yr adroddiad yma

Darllenwch am waith y Pwyllgor ar y pwnc