Mae gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn cael eu gwthio i'r eithaf gan system sy'n methu â chydnabod, cefnogi neu gynnal eu hawliau cyfreithiol sylfaenol dro ar ôl tro. Dyma yw’r rhybudd mewn adroddiad newydd gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd.
Clywodd ymchwiliad y Pwyllgor dystiolaeth ddirdynnol gan ofalwyr a ddisgrifiodd sut roedd yn rhaid iddynt “erfyn” ac “ymladd” am help.
Dywedodd llawer ohonynt eu bod wedi bod yn gofalu ers blynyddoedd heb gael eu cydnabod fel gofalwyr gan weithwyr proffesiynol, er gwaethaf bod mewn cyswllt yn aml â meddygfeydd teulu, ysbytai ac awdurdodau lleol.
Mae mwy na 310,000 o bobl yng Nghymru – sef un o bob 11 – yn darparu gofal di-dâl, ac ym mis Mawrth 2024, dim ond 4,924 oedd â chynllun cymorth. Dywedodd rhai gofalwyr eu bod wedi aros misoedd am asesiad, heb unrhyw wasanaethau ar gael ar ddiwedd y broses, a bod prinder difrifol o gyfleoedd gofal seibiant ledled Cymru.
Mae'r adroddiad yn annog Llywodraeth nesaf Cymru i fynd ati’n gyflym i drawsnewid y sefyllfa hon fel blaenoriaeth. Mae’r argymhellion yn cynnwys gwella’r dull o ganfod yn gynnar, rhoi hawliau clir i wasanaethau ymarferol fel gofal seibiant, a chynnig cymorth ariannol ac emosiynol - a chefnogi hyn oll gyda data cadarn ac arweinyddiaeth bendant.
Dywed Peter Fox AS, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Mae gofalwyr di-dâl wedi’u gwthio i’r eithaf. Rydym wedi clywed sut mae'n rhaid iddyn nhw "erfyn" ac "ymladd" am help, ar gyfer y bobl maen nhw'n gofalu amdanynt ac ar gyfer eu hunain.
“I ofalwyr ifanc yn arbennig, mae’r diffyg cefnogaeth yn cyfyngu ar gyfleoedd bywyd. Maen nhw'n treulio eu hamser yn yr ysgol yn poeni'n gyson; maen nhw'n colli cyfleoedd ac mae eu siawns o fynd i goleg neu brifysgol yn gyfyngedig iawn oherwydd nad oes neb i ymgymryd â'u rôl ofalu.
“Yn 2019, galwodd ein pwyllgor rhagflaenol am ffocws ac arweinyddiaeth genedlaethol gref, ac i gymryd camau prydlon a phendant. Mae’n 2026 bellach, ac o'r straeon anobeithiol a glywsom yn ystod yr ymchwiliad hwn, nid oes llawer wedi newid.
“Mae gofalwyr di-dâl wedi ysgwyddo beichiau trwm am gyfnod rhy hir, a rhaid i ni wneud yn llawer gwell dros y rhai sydd wrth wraidd ein system ofal. Rydym yn annog Llywodraeth nesaf Cymru i dderbyn yr argymhellion hyn ac i weithredu’n gyflym.”
Gofalwyr ifanc: eu llesiant a’u dyfodol mewn perygl
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod gofalwyr ifanc yn arbennig o agored i niwed: mae llawer yn rhoi gofal sy'n cyfateb i swydd amser llawn, ar ben rheoli gwaith ysgol, cyfrifoldebau personol a'u llesiant eu hunain.
Wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor, fe wnaeth y gofalwyr ifanc Ffiôn-Hâf Scott, Albie Sutton ac Elektra Thomas, rannu'r her o ofalu am anwyliaid wrth ofalu am eu llesiant eu hunain.
Mae Ffiôn-Hâf Scott yn 18 oed ac yn dod o Wrecsam. Mae hi'n gofalu am ei mam sydd â nifer o broblemau iechyd gan gynnwys diabetes a chyflyrau iechyd meddwl.
"I mi, dwi’n meddwl mai'r brif her ar hyn o bryd yw edrych ar ôl fy hun, a dysgu bod yn rhaid i chi gadw eich hun i fynd er mwyn parhau i ofalu am rywun arall. Mae hynny'n dod yn fwy o her rwan, oherwydd dwi yn y chweched dosbarth, dw'n gweithio, a dwi’n gwneud llawer o bethau eraill hefyd. Ac mae trio rheoli'r pethau hynny, a chael y gorau allan ohonyn nhw, tra hefyd yn ceisio gofalu am rywun nad ydyn nhw’n gallu gwneud hynny drostynt eu hunain, dwi’n meddwl mai dyna, i mi, yw'r her fwyaf."
Mae Albie Sutton yn 16 oed, ac yn dod o ogledd Cymru. Mae'n gofalu am ei fam sydd â sawl anabledd. Byddai’n hoffi mynd i'r brifysgol ond mae'n poeni y bydd y rôl o ofalu yn disgyn ar ei frawd, sy'n rhy ifanc i ymgymryd â'r cyfrifoldeb hwnnw.
"Dwi yn y chweched dosbarth a .. dwi rhwng dau feddwl a allai fynd i'r brifysgol neu ddim, oherwydd dydy o [ei frawd] ddim mewn sefyllfa lle gall gymryd fy rôl ofalu. Mae'n gwneud i mi amau a ydw i'n mynd i allu dilyn addysg bellach. Mae yna ychydig o bryder am fy mrawd amwn i ac a fydd o’n gallu gwneud y gwaith neu ddim, ond mae yna bryder i mi fy hun hefyd, a allai ddilyn y llwybr dwi eisiau ei ddilyn .. oherwydd nad oes ‘na neb sy'n gallu cymryd drosodd oddi wrthai."
Mae Elektra Thomas yn 15 oed ac yn gofalu am ei brawd a’i chwaer. Mae ei brawd yn awtistig ac yn ddi-eiriau, ac mae gan ei chwaer epilepsi.
"Pan ddaw i fy addysg, mae rheoli sut dwi’n teimlo, sut mae fy mrawd a'm chwaer, ac yna unrhyw beth i wneud gydag addysg, mor anodd. Rwyt ti eisiau bod yn wych, ac rwyt ti eisiau cael yr amser hwnnw i ganolbwyntio ar dy astudiaethau, ond rwyt ti hefyd eisiau cael yr amser i ganolbwyntio ar dy frodyr a dy chwiorydd ac rwyt ti’n anghofio andanat ti dy hun. Alli di ddim yn y foment honno ddweud, 'Iawn, dwi’n sdryglo ychydig, felly efallai y galla i beidio â gwneud hyn neu efallai y galla i gymryd seibiant o hyn.' Dwyt ti ddim yn gallu; mae gofalu yn beth amser llawn rwyt ti’n ei wneud .. ac fe fydd e, yn gyson.”
Ymhlith y mesurau sydd yn yr adroddiad mae sawl un ar gyfer mynd i'r afael â'r rhwystrau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu, gan gynnwys hyfforddiant i holl staff ysgolion; arweinydd gofalwyr ifanc ym mhob ysgol a choleg; gorfodi hawliau gofalwyr ifanc yn iawn; a chyflwyno a hyrwyddo cardiau adnabod i ofalwyr ifanc mewn ffordd gyson ym mhob awdurdod lleol.
Gyda'i gilydd, byddai’r 35 o argymhellion sydd yn yr adroddiad yn helpu i drawsnewid y cymorth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl yng Nghymru ac mae'r adroddiad hwn yn alwad frys i Lywodraeth nesaf Cymru ddechrau gweithredu.
Mwy am y stori yma
Gwyliwch ofalwyr ifanc ac oedolion yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor