Llywydd y Cynulliad yn dymuno lwc dda i dîm Cymru yn y gêm gyn-derfynol yng Nghwpan Rygbi’r Byd
14 Hydref 2011
Mae Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, wedi cyhoeddi neges lwc dda i dîm rygbi Cymru cyn y gêm gyn-derfynol yn erbyn Ffrainc yng Nghwpan Rygbi’r Byd.
Dywedodd Mrs Butler: “Ar ran Aelodau’r Cynulliad a’r holl staff, hoffwn ddymuno pob lwc i dîm Cymru yn y gêm yfory yn erbyn Ffrainc.”
“Mae cyrraedd y rownd hon yn y gystadleuaeth am y tro cyntaf ers 24 o flynyddoedd yn gamp aruthrol, ac mae perfformiadau’r chwaraewyr yng Nghwpan y Byd wedi llwyddo i godi ysbryd y genedl.
“Rydym yn gobeithio y gall y tîm gyrraedd y rownd derfynol, ond beth bynnag fydd y canlyniad ddydd Sadwrn, rydym eisioes yn falch iawn o agwedd, dawn a phendantrwydd proffesiynol y tîm hyd yma.”
Yn ogystal, mae staff y Cynulliad Cenedlaethol wedi bod yn dangos eu cefnogaeth i’r tîm drwy wisgo’u crysau rygbi i’r gwaith heddiw.
Ac, yn groes i’r arfer, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn codi baner y ddraig goch ar bob polyn tu allan i’r Senedd, Tŷ Hywel a’r swyddfeydd ym Mae Colwyn.