​Gwaith craffu cadarn y Cynulliad yn pwysleisio'r angen am archwiliad pellach o ffigurau Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd 06/06/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2017

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei gorfodi i oedi cyn cyflwyno penderfyniad ariannol, y dull a ddefnyddir gan y Cynulliad i gymeradwyo gwariant y Llywodraeth fel rhan o gyfraith newydd, hyd nes ei bod wedi cyhoeddi costau arfaethedig diwygiedig ar gyfer ei Bil i wella Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru.


Nodwyd gwahaniaethau sylweddol yn y ffigurau sy'n gysylltiedig ag anghytundebau ac apelau fel rhan o'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru).


Ysgrifennodd y Gweinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar 25 Mai yn dweud y disgwylir i'r amcangyfrif o gostau cyffredinol y Bil newid o arbed £4.8 miliwn i gost o £8.2 miliwn dros gyfnod o bedair blynedd.


Cwestiynodd y Pwyllgor oblygiadau ariannol y Bil am y tro cyntaf mewn cyfarfod gydag Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, ym mis Chwefror.


Ym mis Mawrth cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad o'i chostau arfaethedig, ond ni roddodd wybod i'r Pwyllgor am ei chanfyddiadau tan y diwrnod ar ôl dyddiad cau y Pwyllgor ar gyfer cyflwyno adroddiad yn niwedd mis Mai.


Ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog yn gofyn iddo oedi cyn cyflwyno Penderfyniad Ariannol, hyd nes y caiff y wybodaeth ariannol ddiwygiedig ei chyhoeddi ac y creffir arni.


Dywedodd Simon Thomas AC: “Dyma’r tro cyntaf i’r Llywodraeth oedi cyn cyflwyno Penderfyniad Ariannol sy’n ymwneud ag un o’i biliau ei hun o ganlyniad i bwysau gan y Cynulliad. Mae hyn yn gam pwysig.


"Mae hyn yn dangos gwerth gwaith craffu trylwyr, gwrthrychol gan un o bwyllgorau'r Cynulliad.


“Yn ystod sesiwn dystiolaeth dywedodd y Gweinidog wrthym fod y ffigurau a gyhoeddwyd gyda'r Bil yn gadarn ac y gallem ddibynnu arnynt.


“Mae'r ffigurau diwygiedig a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru wedi newid yn sylweddol ac yn dangos bod angen gwneud gwaith craffu pellach.


“Heb y gwaith a wnaed gan bwyllgorau'r Cynulliad a'r dystiolaeth a gasglwyd drwy ymgynghori â rhanddeiliaid, byddai gan Lywodraeth Cymru dwll gwerth miliynau o bunnoedd yn ei chyllid.


“Rydym yn siomedig nad oeddem yn gwybod am y ffigurau diwygiedig tan ar ôl cyhoeddi ein hadroddiad, ond yn cytuno gyda phenderfyniad y Gweinidog i oedi cyn cyflwyno penderfyniad ariannol tan fod y costau newydd wedi cael eu hystyried yn fwy manwl.”


Trafodwyd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a chynhaliwyd pleidlais arno yng Nghyfnod 1 o broses ddeddfu'r Cynulliad yn ystod y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 6 Mehefin.