Gweledigaeth newydd i fynd i'r afael â diffygion yng nghysylltiadau rhyngwladol Cymru

Cyhoeddwyd 28/01/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/01/2026   |   Amser darllen munudau

Mae gwaith cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru yn brin o gyfeiriad strategol a thryloywder ariannol, yn ôl adroddiad un o bwyllgorau’r Senedd a gyhoeddwyd heddiw.

Mae'r adroddiad, gan Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, yn nodi gweledigaeth newydd feiddgar, Cenhadaeth Cymru, i arwain Llywodraethau Cymru yn y dyfodol.

Mae'r Pwyllgor yn tynnu sylw at y ffaith bod gan Gymru rôl werthfawr i'w chwarae ar lwyfan y byd, gyda chefnogaeth ewyllys da rhyngwladol cryf, arbenigedd a chysylltiadau byd-eang. Fodd bynnag, mae'n rhybuddio, heb strategaeth glir, ei bod hi'n anodd asesu blaenoriaethau, effaith neu werth am arian. Dywed y Pwyllgor dyma pam ei bod hi'n hanfodol bod llywodraethau'r dyfodol yn mabwysiadu dull sydd â mwy o ffocws.

Dywedodd Delyth Jewell AS, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol:

“Mae ein hymchwiliad wedi canfod bod dealltwriaeth o gysylltiadau rhyngwladol Cymru wedi’i llesteirio gan ddryswch, gwaith cynllunio tameidiog a diffyg atebolrwydd. Mae'r rhai sydd wedi rhoi tystiolaeth i'n Pwyllgor wedi dweud wrthym dro ar ôl tro eu bod yn ansicr ynghylch blaenoriaethau'r llywodraeth a sut mae llwyddiant yn cael ei fesur.

“Wrth inni nesáu at gyfnod o fwy o aflonyddwch yn y cysylltiadau sy'n gwau cenhedloedd gyda'i gilydd, mae’r angen am egwyddorion clir a mesuradwy ar gyfer ein gweithgarwch cysylltiadau rhyngwladol ein hunain yn bwysicach nag erioed. Efallai bod daearyddiaeth wedi ein gosod ar gornel cyfandir, ond ni ddylai llais Cymru byth fod yn ymylol.

“Mae ein gweledigaeth hirdymor newydd ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol Cymru, Cenhadaeth Cymru, yn darparu llwybr ymarferol i fynd i’r afael â’r methiannau hyn a rhoi cysylltiadau rhyngwladol Cymru ar sail gryfach i gefnogi’r syniad o gyflawni canlyniadau pendant.”

Tryloywder ariannol

Mae adroddiad y Pwyllgor yn codi pryderon difrifol ynghylch tryloywder ariannol. Mae'n datgan nad yw wedi gallu craffu gyda hyder ar fwy na £58 miliwn a ddyrannwyd i gysylltiadau rhyngwladol, er gwaethaf ymdrechion dro ar ôl tro dros sawl blwyddyn.

Nid yw'r Pwyllgor wedi cael y wybodaeth sydd ei hangen o hyd i benderfynu a yw'r arian hwn wedi'i ddefnyddio'n effeithiol. Mae bylchau allweddol mewn tryloywder, adrodd anghyson, a diweddariadau hwyr neu anghyflawn wedi ei gwneud hi'n amhosibl craffu'n llawn ar ganlyniadau, gwerth am arian, neu aliniad â blaenoriaethau'r llywodraeth.

O ganlyniad i hyn, mae'r Pwyllgor yn dal i fod yn methu asesu a yw'r buddsoddiad sylweddol a wnaed yn ystod tymor y Senedd hon wedi cyflawni'r manteision a fwriadwyd i Gymru.

Beirniadaethau allweddol

Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad bod dull y llywodraeth o ymdrin â chysylltiadau rhyngwladol yn cael ei nodweddu gan ormod o strategaethau a chynlluniau sy'n gorgyffwrdd, ochr yn ochr â diffyg eglurder ynghylch blaenoriaethau a sut mae llwyddiant yn cael ei fesur.

Canfu'r Pwyllgor nad oes llawer o wybodaeth ar gael, gan gynnwys cofnod anghyflawn o gytundebau rhyngwladol Cymru, a methiannau dro ar ôl tro i hysbysu'r Senedd o ddatblygiadau allweddol, megis llofnodi cytundebau newydd neu gytundebau wedi'u hadnewyddu. Dywedodd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn gwneud anghymwynas â’i hun drwy beidio â chasglu a chyfleu’r gwaith hwn mewn ffordd gydgysylltiedig. Dywedodd fod tryloywder cryfach yn hanfodol ar gyfer gwaith craffu democrataidd effeithiol.

Mae'r adroddiad hefyd yn beirniadu atebolrwydd a gwaith craffu gweinidogol annigonol. Er bod cysylltiadau rhyngwladol o fewn portffolio'r Prif Weinidog, mae'r Pwyllgor yn nodi mai dim ond unwaith y flwyddyn y mae'r Prif Weinidog yn mynychu sesiynau craffu, ac mae wedi gwrthod ymddangos ar gyfer mathau eraill o waith craffu, gan gynnwys sesiynau tystiolaeth ar y gyllideb.

Dyfodol cysylltiadau rhyngwladol yng Nghymru

Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraethau Cymru yn y dyfodol i fabwysiadu Cenhadaeth Cymru, cyfres newydd o ddeuddeg egwyddor a gynlluniwyd i ddarparu gweledigaeth glir, hirdymor ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol Cymru.

Mwy am y stori yma

Darllenwch yr adroddiad

Darllenwch mwy am waith y Pwyllgor ar y pwnc