Gwell rheolaeth ar absenoldeb salwch wedi arbed £6 miliwn y flwyddyn i’r GIG yng Nghymru mewn amser staff ond gellir gwneud mwy o gynnydd

Cyhoeddwyd 24/06/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Gwell rheolaeth ar absenoldeb salwch wedi arbed £6 miliwn y flwyddyn i’r GIG yng Nghymru mewn amser staff ond gellir gwneud mwy o gynnydd

Heddiw cyhoeddodd Pwyllgor Archwilio Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei adroddiad ar reoli salwch yn GIG Cymru.  Mae’r adroddiad yn dilyn ymlaen o’i ymchwiliad i’r mater yn 2004, ac mae’n dod i’r casgliad bod trefniadau rheoli absenoldeb salwch wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf.  

Canfu’r Pwyllgor fod ymddiriedolaethau sydd wedi rhoi sylw arbennig i’r mater hwn ac wedi canolbwyntio adnoddau ar y mater wedi gallu gostwng cyfraddau absenoldeb salwch.  

Yn gyffredinol, sefydlogodd cyfradd flynyddol gyfartalog absenoldeb salwch ymddiriedolaethau’r GIG rhwng 5.3 a 5.4 y cant yn y cyfnod rhwng Ebrill 2004 a Mawrth 2008, o’i gymharu â’r ffigwr o 6.0 y cant a gofnodwyd yn flaenorol ar gyfer 2002-03.  Amcangyfrifir i’r gostyngiad hwn mewn absenoldeb fod wedi creu amser staff ychwanegol yn y gwaith sy’n werth  £6 miliwn y flwyddyn a dylai hefyd fod wedi helpu i osgoi rhywfaint o wariant ychwanegol ar staff llanw, fel nyrsys o asiantaethau.

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod ad-drefnu’r GIG yn rhoi cyfle i hyrwyddo rhagor o welliannau a dull gweithredu cyson o ran rheoli absenoldeb salwch, gan adeiladu ar y cynnydd cyffredinol a wnaed dros y pum mlynedd diwethaf.  Fodd  bynnag, os caiff ei reoli’n wael, gall yr ad-drefnu arwain at gynnydd mewn absenoldeb salwch trwy ddwysáu problemau o ran morâl ac ymgysylltu â’r gweithlu a straen cynyddol.  

Dywedodd Jonathan Morgan, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio: “Mae’r Pwyllgor yn cydnabod bod amgylchiadau neilltuol i’r GIG a all gyfrannu at y lefelau uchel o absenoldeb ond, er hynny, mae’n bwysig bod hyn yn cael ei reoli’n dda.  Nid yw lefelau uchel o absenoldeb salwch yn dda i’r staff, i’r GIG nac i’r cleifion y mae’n ei wasanaethu, a dylai rheolwyr fod yn ystyriol o’r ffaith honno yn ystod y broses o ad-drefnu sydd ar ddod.