Gwelliannau i Ofal Canser Gynaecolegol wedi methu cyrraedd y nod

Cyhoeddwyd 23/01/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/01/2026   |   Amser darllen munudau

Mae menywod yng Nghymru yn parhau i gael eu siomi, a hynny oherwydd diffyg gweithredu Llywodraeth Cymru ynghylch canser gynaecolegol, wrth iddi fethu â chyflawni nifer o argymhellion ddwy flynedd ar ôl iddyn nhw gael eu cyflwyno.

Ym mis Rhagfyr 2023, gwnaeth adroddiad o bwys mawr gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd - Heb lais: Taith menywod drwy ganser gynaecolegol – ddatgelu methiannau critigol mewn gofal canser gynaecolegol, gyda menywod yn teimlo bod y system sydd i fod i ofalu amdanyn nhw yn troi clust fyddar iddyn nhw. 

Cafodd y rhan fwyaf o argymhellion y Pwyllgor yn 2023 eu derbyn, ond mae cynnydd tuag at wella amseroedd aros a chanlyniadau yn parhau i fod yn araf ac yn annigonol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae Llywodraeth Cymru wedi:

  • peidio â dyrannu cyllid penodol wedi'i glustnodi ar gyfer gwasanaethau canser gynaecolegol, gan ddewis yn lle hynny ailddyrannu cyllidebau presennol
  • peidio â chyhoeddi targedau GIG mesuradwy ar gyfer gwella canlyniadau canser gynaecolegol, er gwaethaf ymrwymo i wneud hynny
  • methu’r nod o bell ffordd o ran amseroedd aros, sydd ymhlith y gwaethaf ar gyfer pob math o ganser, gyda dim ond 41% o gleifion yn dechrau triniaeth o fewn y targed o 62 diwrnod ym mis Hydref 2025.

Llais anhyglyw o hyd

Yn eu tystiolaeth i'r Pwyllgor, dywedodd nifer o elusennau canser fod menywod yn teimlo eu bod wedi cael eu siomi ymhellach gan ddiffyg gweithredu Llywodraeth Cymru o ran ei hymrwymiadau:

Mae Gofal Canser Tenovus ac Ymgyrch Claire wedi nodi bod y Cynllun Iechyd Menywod yn ymrwymo i wrando ar fenywod, ond bod canserau gynaecolegol yn absennol, gan ychwanegu bod y rhain heb gael eu cynnwys o gwbl, er gwaethaf galwadau gan Gofal Canser Tenovus a’r adroddiad Heb lais. Gwnaethant ddweud bod hyn yn golygu nad oes cynllun, na safonau, na ffordd o fesur a yw menywod â'r canserau hyn yn cael eu clywed.  

Dywedodd Target Ovarian Cancer iddyn nhw siarad yn ddiweddar â rhai o’r menywod a oedd wedi cyfrannu i’r ymchwiliad, a bod y rhain wedi nodi eu siom at y diffyg cynnydd a oedd wedi cael ei wneud ers i adroddiad Heb lais gael ei gyhoeddi. Dywedodd i’r menywod hyn rannu eu teimlad nad oeddent wedi cael eu clywed yn llawn na’u pryder ynghylch diffyg targedau uchelgeisiol.

Dywedodd Peter Fox AS, Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd:

“Y tu ôl i bob ystadegyn, mae menywod a theuluoedd y mae eu bywydau’n dibynnu ar ddiagnosis a thriniaeth amserol. Pan gyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ym mis Rhagfyr 2023, dywedodd y Cadeirydd bryd hynny fod yr ymchwiliad wedi bod ymsyg y mwyaf emosiynol iddo fod yn rhan ohonynt. 

“Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae’n annerbyniol bod cyn lleied o gynnydd wedi cael ei wneud. Os yw canser gynaecolegol yn flaenoriaeth go iawn, rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos hynny drwy gamau gweithredu amlwg, cyllid penodol, ac atebolrwydd clir.”

Mae'r Pwyllgor yn galw am gamau brys, gan gynnwys:

  • dyrannu buddsoddiad wedi'i dargedu at wasanaethau canser gynaecolegol
  • targedau clir a mesuradwy ar gyfer perfformiad GIG Cymru, a mesurau i ddwyn Byrddau Iechyd i gyfrif pan na fodlonir targedau. 
  • mwy o welededd ar gyfer canserau gynaecolegol o fewn cynlluniau gwella canser
  • adrodd chwarterol gorfodol ar amseroedd aros a chynnydd

Mwy am y stori yma

Darllenwch yr adroddiad diweddaraf

Darllenwch yr adroddiad gwreiddiol a gyhoeddwyd yn 2023 Heb lais: Taith menywod drwy ganser gynaecolegol