Gwleidyddion Cymru i fynd benben â’i gilydd mewn gornest seneddol ym Mharc yr Arfau

Cyhoeddwyd 04/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/02/2015

Bydd tîm rygbi Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn herio Tîm Tŷ'r Cyffredin a'r Arglwyddi ym Mharc yr Arfau yng Nghaerdydd am 2pm ar 6ed o Chwefror - gêm sy'n cael ei gweld fel yr ornest go iawn rhwng Cymru a Lloegr.

Bydd y timau yn cystadlu yn eu 9fed gêm flynyddol i godi arian i elusen Bowel Cancer UK, gyda Thîm Rygbi'r Cynulliad yn anelu am eu pedwerydd buddugoliaeth o'r bron yn erbyn eu gwrthwynebwyr.

Ymhlith y rhai fydd yn chwarae i Dîm Rygbi'r Cynulliad fydd arweinydd yr wrthblaid, Andrew RT Davies ac Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth.

Bydd Tîm Tŷ'r Cyffredin a'r Arglwyddi'n cynnwys Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, Aelod Seneddol Bro Morgannwg, Alun Cairns ac Aelod Seneddol y Rhondda, Chris Bryant.

Dywedodd Cadeirydd Tîm Rygbi Cynulliad, Andrew RT Davies AC, mai hybu achosion da yw nod y gem, gan annog y cyhoedd i ddod i'w cefnogi a chefnogi 'gwir' dîm Cymru ar y 6ed.

Dywedodd:

"Dros y blynyddoedd mae'r tîm wedi codi dros £10,000 i Bowel Cancer UK ac rwy'n falch o fod yn rhan o hynny.

"Y gêm flynyddol yn erbyn Tîm Tŷ'r Cyffredin a'r Arglwyddi sydd wastad yn creu'r cynnwrf mwyaf, ond yn y pen draw, hybu achosion da a chodi ymwybyddiaeth am y gwaith mae Bowel Cancer UK yn ei wneud yw'r nod.

"Cafodd tîm y Cynulliad ei sefydlu gan Glyn Davies yn 2006, pan oedd e'n Aelod Cynulliad. Llwyddodd Glyn i oresgyn canser y coluddyn ac roedd eisiau codi ymwybyddiaeth am y salwch a dangos yn bersonol sut y gall goroeswyr fynd ymlaen i fyw bywyd llawn a gweithgar ar ôl bod mor sâl. Rwy'n credu bod honno'n neges y gallwn ni gyd ei chefnogi.

"Ar ran Tîm Rygbi'r Cynulliad, hoffwn hefyd ddiolch i Gleision Caerdydd am ganiatau i ni ddefnyddio'r sadiwm a gobeithiaf y gallwn ni gyflawni'r gyntaf o ddwy fuddugoliaeth wych dros Loegr y diwrnod hwnnw!"

Bydd y gic gynta am 2pm ar y 6ed a gall cefnogwyr gyrraedd y stadiwm o 1pm ymlaen.

Mae Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol yn cefnogi ymdrechion codi arian y tîm a hefyd wedi cytuno i noddi gwisg newydd y tîm ar gyfer Cwpan Rygbi Seneddol y Byd ym mis Medi.

Dwedodd y Llywydd, Y Fonesig Rosemary Butler AC: "Rydyn ni wedi gweld gemau rygbi tanllyd rhwng Cymru a Lloegr dros y blynyddoedd ond does yr un ohonyn nhw wedi bod yn fwy brwd na'r gêm rhwng y Cynulliad a San Steffan.

"Ond nid sichrau buddugoliaeth yw unig nod y gêm hon. Mae Tîm Rygbi'r Cynulliad yn gwneud gwaith gwych yn codi arian at achosion elusennol, a gobeithiaf y bydd cymaint o bobl â phosibl yn mynd i Barc yr Arfau i gefnogi'r chwaraewyr a chyfrannu at y gwaith o godi arian i Bowel Cancer UK.

"Mae Comisiwn y Cynulliad yn hapus i gefnogi'r tîm fel y gallan nhw barhau a'u gwaith codi arian, a dymunaf y gorau iddyn nhw cyn y gêm hon a'r Cwpan Byd Seneddol yn ddiweddarach eleni."

Dywedodd cyn-chwaraewr tîm rhyngwladol Cymru, Tom Shanklin:

"Mae’n grêt bod tîm rygbi’r Cynulliad yn chwarae yn erbyn tîm Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi cyn y gêm fawr ddydd Gwener.

"Nid oes unrhyw amheuaeth y bydd yn gêm yr un mor gystadleuol, a’r gobaith yw y bydd y timau’n casglu llawer o arian ar gyfer achos teilwng iawn, Bowel Cancer UK."

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth: "Er fy mod wedi anafu fy ysgwydd, rwy'n edrych ymlaen yn aruthrol at chwarae'n erbyn tîm sy'n gyfuniad o Dŷ'r Cyffredin a'r Arglwyddi."

"Ar ôl dod i dermau â'r ffaith fod Gatland wedi gwrthod a fy nghynnwys i yn y XV cynta ers iddo gael ei benodi'n hyfforddwr yn 2007, dyma'r agosaf i mi ddod at gynrhychioli fy ngwlad wrth chwarae rygbi, ac rwy'n barod i chwarae er gwaetha'r boen.
"Bydd y gêm hon yn codi arian at achos da iawn ac rwy'n gobeithio y daw torf fawr i sicrhau digwyddiad llwyddiannus ar gyfer Bowel Cancer UK. Os byddwch yn dod draw, rhowch yn hael a dangoswch eich cefnogaeth i dîm Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan obeithio y cawn bedwaredd fuddugoliaeth o'r bron."