Yn dilyn newidiadau diweddar i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â gadael yr Undeb Ewropeaidd, er i gynnydd sylweddol gael ei wneud i ddiogelu datganoli, mae risg i’r setliad yn parhau, yn ôl Pwyllgor yn y Cynulliad.
Mae Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (“y Bil”) yn dod i ddiwedd ei daith drwy’r Senedd.
Mae Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad wedi bod yn gweithio ar y Bil, ac ar y Papur Gwyn cyn hynny, er mis Mawrth 2017 gyda’r bwriad o sicrhau bod Llywodraeth y DU yn deall y goblygiadau i Gymru, ac i ddatganoli yng Nghymru, ac yn gweithredu yn eu cylch.
Ym mis Hydref 2017, pennodd y Pwyllgor chwe amcan ar gyfer gwella’r Bil. Seiliwyd yr amcanion hyn ar y dystiolaeth a gafwyd gan arbenigwyr cyfansoddiadol a chyfreithiol o bob rhan o’r Deyrnas Unedig. Pennwyd yr amcanion er mwyn diogelu’r setliad datganoli.
Yn yr adroddiad a gyhoeddir heddiw, mae Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad yn ymdrin â’r chwe amcan hyn yng ngoleuni’r Cytundeb Rhynglywodraethol diweddar (rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU), diwygiadau diweddar i’r Bil, a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru – dogfen sy’n disgrifio safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch pa un a ddylai’r Cynulliad gydsynio i Senedd y DU wneud cyfreithiau yn y maes hwn ai peidio.
Daeth y Pwyllgor i’r casgliad na chyflawnwyd ei chwe amcan yn llawn, er gwaethaf y cynnydd sylweddol a wnaed.
“Yn sicr, mae sefyllfa Cymru, o ran Bil yr UE (Ymadael) ac o ran rheoli yn y dyfodol y pwerau hynny sydd ym Mrwsel ar hyn o bryd, yn llawer llai bregus nag yr oedd pan drafodwyd y Bil gyntaf gennym y llynedd,” meddai David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.
“Fel y’i drafftiwyd yn wreiddiol, byddai’r Bil wedi rhoi pwerau helaeth i Lywodraeth y DU mewn meysydd polisi sydd wedi’u datganoli i Gymru ers 20 mlynedd ond a arferir o dan fantell yr UE”.
“Gall y Pwyllgor weld bod cynnydd sylweddol wedi cael ei wneud ac rydym yn derbyn bod trafodaethau yn gofyn am gyfaddawdu ar bob llaw, a hynny er mwyn cyrraedd setliad derbyniol.”
“Fodd bynnag, ni chyflawnwyd amcanion y Pwyllgor, ac rydym yn dal yn gofidio y gallai Senedd y DU gyfyngu ar allu’r Cynulliad i ddeddfu mewn meysydd polisi datganoledig, megis amaethyddiaeth, hyd yn oed mewn amgylchiadau lle mae’r Cynulliad yn gwrthod rhoi cydsyniad i gyfyngiadau o’r fath gael eu gosod.”
Cyhoeddir yr adroddiad hwn cyn i’r Cynulliad gynnal pleidlais ddydd Mawrth 15 Mai ar a ddylai roi cydsyniad i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a chyn y Trydydd Darlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi ddydd Mercher 16 Mai.
Darllen yr adroddiad llawn:
Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael): Y cynnydd o ran cyflawni ein chwe amcan (PDF, 586 KB)