Gwnaeth Llywodraeth Cymru 'penderfyniadau anesboniadwy' mewn perthynas â Chylchffordd Cymru, meddai un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 22/05/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol yn bryderus iawn ynghylch sut yr ymdriniodd Llywodraeth Cymru â Chylchffordd Cymru.

Wrth dderbyn bod Gweinidogion y Llywodraeth yn iawn i ystyried cefnogi adeiladu trac rasio newydd ger Glynebwy, daeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i'r casgliad bod swyddogion wedi gwneud penderfyniadau anesboniadwy wrth ddarparu cyllid ar gyfer y prosiect, ac nad oeddent wedi rhoi gwybodaeth ddigonol i'r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth am y datblygiadau diweddaraf.

At ei gilydd, gwariodd Llywodraeth Cymru dros £9 miliwn o arian cyhoeddus ar Gylchffordd Cymru cyn i'r cynllun ddirwyn i ben ar ôl i'r Llywodraeth wrthod gweithredu fel gwarantwr benthyciadau gwerth £210 miliwn - bron hanner cost y prosiect.

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod nifer o gamgymeriadau yn y modd roedd swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth am benderfyniad Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd (HoVDC) i brynu cwmni beiciau modur yn Swydd Buckingham gan (HoVDC), y cwmni a oedd yn gyfrifol am gyflwyno'r prosiect.

Mewn datganiad i'r wasg gan adran y Llywodraeth, gwadwyd bod y £300,000 a ddefnyddiwyd i brynu cwmni FTR Moto wedi dod o grant datblygu eiddo gwerth £2 filiwn (PDG) a roddwyd i HoVDC gan Lywodraeth Cymru. Ond roedd gwaith papur a welwyd gan y Pwyllgor yn dangos bod swyddogion nid yn unig yn gwybod am y pryniant ond, yn wir, wedi cytuno arno. Bwriedir i arian grant datblygu eiddo gael ei ddefnyddio'n benodol i gynorthwyo cyrff yn y sector preifat i brynu eiddo.  Yn ddiweddarach, caeodd cwmni FTR Motors, a hwythau heb adleoli i Gymru erioed.

Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach nad oedd tystiolaeth bod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth wedi cael gwybod am y cytundeb hwn. 

Hefyd, yn ôl y Pwyllgor, nid oedd fawr ddim tystiolaeth chwaith fod Llywodraeth Cymru wedi craffu'n drylwyr ar y cytundeb a lofnodwyd rhwng HoVDC ac Aventa Capital Partners, cwmni y gofynnwyd iddo ddarparu gwasanaethau arbenigol.

Yr un dyn, Michael Carrick, oedd yn bennaeth ar y ddau gwmni, ond ymddengys nad oedd swyddogion wedi cadarnhau bod proses dendro gystadleuol foddhaol wedi'i chynnal cyn llofnodi'r cytundeb nac wedi cadarnhau pa wasanaethau arbenigol y byddai Aventa yn eu darparu. Roedd y rhestr o wasanaethau a gyflwynwyd i'r Pwyllgor yn wahanol i'r rhestr a roddwyd i Lywodraeth Cymru, gan awgrymu'n gryf fod y rhestr a roddwyd i'r Pwyllgor wedi'i baratoi'n ôl-weithredol.

Wrth benderfynu peidio â chefnogi prosiect Cylchffordd Cymru, dywedodd Llywodraeth Cymru mai mater cyfrifyddu technegol annelwig oedd y rheswm dros hynny. Ond, yn ôl y dystiolaeth a welodd y Pwyllgor, roedd y Llywodraeth wedi comisiynu ei ddiwydrwydd dyladwy cynhwysfawr ei hun a oedd wedi rhoi digon o resymau pam na ddylai gefnogi'r prosiect. Arweiniodd hyn at ddryswch ymysg y cyhoedd ac ni wnaeth fawr ddim i ennyn hyder yng ngallu'r Llywodraeth i ymdrin ag arian cyhoeddus yn ddoeth ac yn dda. 

"Roedd prosiect arfaethedig Cylchffordd Cymru yn brosiect unigryw, a oedd, i bob golwg, yn cynnig y posibilrwydd o adfywio ardal economaidd ddifreintiedig," meddai Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

"Roedd Llywodraeth Cymru yn iawn i ymchwilio i'r posibiliadau o wneud i'r prosiect hwn lwyddo ac, yn briodol ddigon, nid swyddogaeth y Pwyllgor hwn yw gwneud sylwadau ar rinweddau penderfyniad terfynol y Cabinet i beidio â darparu'r cymorth y gofynnwyd amdano ar ffurf arian cyhoeddus.

"Rydym yn bryderus iawn, fodd bynnag, ynghylch sut yr ymdriniodd Llywodraeth Cymru â'r prosiect hwn. Rydym am i Gymru fod yn ddewis cyntaf ar gyfer buddsoddi ac, er mwyn cyflawni hyn, mae angen i'r broses benderfynu sy'n cael ei dilyn gan y rhai sy'n gyfrifol am wario arian trethdalwyr fod yn gydlynol a chael eu dogfennu'n briodol.

"Gwnaeth Llywodraeth Cymru rai penderfyniadau anesboniadwy wrth ddarparu cyllid cychwynnol ar gyfer y prosiect hwn, megis awdurdodi taliad i brynu FTR (cwmni beiciau modur yn Swydd Buckingham) fel rhan o'r grant datblygu eiddo a fwriadwyd i brynu tir yng Nglynebwy.

"Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn dangos rheolaeth effeithiol dros arian cyhoeddus Cymru ac yn cynyddu i'r eithaf y cyfleoedd i fuddsoddi yng Nghymru."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 13 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Bod Llywodraeth Cymru yn cryfhau ei rheolaethau i sicrhau gwerth am arian cyhoeddus mewn perthynas â deall y cysylltiad rhwng y rhai sy'n cael arian cyhoeddus a'u contractwyr a'u cyflenwyr;

  • Bod y trefniadau cyllido ar gyfer prynu FTR yn cael eu defnyddio fel astudiaeth achos at ddibenion hyfforddiant mewnol gan Lywodraeth Cymru, o ystyried y penderfyniadau anghonfensiynol iawn a wnaed ar lefel swyddogol, y diffyg dogfennaeth ategol a methiant swyddogion i ofyn am y gymeradwyaeth ofynnol gan eu Gweinidog a chael y gymeradwyaeth honno; a

  • Y dylid atgoffa holl Ysgrifenyddion y Cabinet, Gweinidogion a holl Uwch Weision Sifil Llywodraeth Cymru o'r gofynion yn y Codau Gweinidogol a Gwasanaeth Sifil i sicrhau cywirdeb yr holl wybodaeth a ryddheir.

 

   


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Cyllid Cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect Cylchffordd Cymru (PDF, 949 KB)