Gweithio i'r Senedd

Gweithio i'r Senedd

Gweithio i'r Senedd

Gweithio i'r Senedd

Gwobr i’r Senedd am fod yn Gyflogwr sy’n Deulu-Gyfeillgar

Cyhoeddwyd 09/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/09/2021   |   Amser darllen munud

Mae Comisiwn y Senedd wedi cael ei chydnabod am ei chefnogaeth eithriadol i'w staff yn 2021.  

Mae'r elusen Working Families, sydd yn annog cyflogwyr i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith iach, wedi cynnwys y Senedd ymhlith y deg cyflogwr teulu-gyfeillgar gorau yn y DU.  

Mae Comisiwn y Senedd yn cyflogi staff sy'n gweinyddu ac yn cefnogi swyddogaethau'r sefydliad, o glercio a gweinyddu'r Cyfarfodydd Llawn a Phwyllgorau, i wasanaethau TGCh, ymrwymiadau cyhoeddus a digwyddiadau, i ddiogelwch a rheoli adeiladau'r Senedd.  

Er mwyn ennill lle ymhlith y 10 uchaf, mae cyflogwyr yn cael eu hasesu gan ddefnyddio ‘Meincnod Working Families’. Maent yn cael eu sgorio ar bedwar maes allweddol i greu darlun cynhwysfawr o'u polisïau a'u harferion sy'n cefnogi rhieni a gofalwyr. 

Roedd sicrhau trefniadau hyblyg ar gyfer pobl sydd â chyfrifoldebau gofalu yn un o'r rhesymau a ganmolwyd y Senedd am ei gwaith.  

Dywedodd Lowri Williams, Pennaeth Gwasanaethau Adnoddau Dynol a Chynhwysiant; “Rydym yn hynod falch ein bod wedi cael ein cydnabod am wneud y Senedd yn lle cadarnhaol i rieni a gofalwyr sy'n gweithio yn 2021. Yn ystod blwyddyn o ansicrwydd eithafol, mae'n arbennig o bwysig i gyflogwyr wneud yr hyn a gallant i gefnogi eu staff. Mae'r wobr hon yn adlewyrchu'r gwerth y mae'r Senedd yn ei rhoi ar bob un o'i gweithwyr.”  

Un o'r ffyrdd y mae'r Senedd yn annog amgylchedd cefnogol yw trwy weithio gyda rhwydweithiau staff i alluogi trafod materion a datrysiadau gyda chydweithwyr. Mae’r rhwydwaith ‘Teulu’ yn dwyn ynghyd rhieni a gofalwyr sy’n gweithio i ddarparu cefnogaeth i’w gilydd ac i rannu syniadau ar gynnal cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith sy’n addas i deuluoedd. 

Dywedodd Meriel Singleton, cadeirydd y rhwydwaith staff Teulu; “Mae cynnwys Comisiwn y Senedd ymhlith y deg cyflogwr gorau ar gyfer teuluoedd sy’n gweithio yn dyst i’r gwaith caled ar draws y sefydliad i fod yn gyflogwr cynhwysol, gyda pholisïau wedi’u cynllunio i helpu a chefnogi pobl i gael cydbwysedd da mewn bywyd a gwaith.”  

Dywedodd Jane van Zyl, Prif Swyddog Gweithredol Working Families; “Ar ôl blwyddyn anhygoel o anodd i gyflogwyr a gweithwyr, rydyn ni wedi cael ein synnu gan safon uchel y ceisiadau eleni. Os rhywbeth, mae wedi bod yn fwy cystadleuol nag erioed, wrth i fwyfwy o gyflogwyr sylweddoli pa mor hanfodol yw cynnig polisïau cyfeillgar i deuluoedd a diwylliant cadarnhaol, cynhwysol i ddenu'r dalent fwyaf amrywiol. Hoffwn longyfarch pob aelod teilwng o'n rhestr Cyflogwyr Gorau 2021.”