Hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o wleidyddiaeth Cymru, y DU ac Ewrop ymysg disgyblion gogledd Cymru
12 Mehefin 2012
Ddydd Gwener 15 Mehefin, bydd cyfle i ddisgyblion blwyddyn 12 o ysgolion yn y gogledd gymryd rhan mewn pedwar gweithdy fel rhan o’u hastudiaethau ar gyfer Bagloriaeth Cymru.
Yn ystod y digwyddiad, a fydd yn para drwy’r dydd ac a gynhelir yn swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno, bydd staff o wasanaeth addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru, swyddogion allgymorth Llywodraeth Cymru, a siaradwyr gwâdd yn amlinellu rôl sefydliadau gwleidyddol amrywiol yng Nghymru, y DU ac Ewrop.
Nod y digwyddiad yw:
cynorthwyo’r broses o ddysgu modiwl Cymru, Ewrop a’r Byd, sef un o fodiwlau Bagloriaeth Cymru;
hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r strwythurau gwleidyddol sy’n effeithio ar Gymru;
codi ymwybyddiaeth ynghylch yr adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr ac athrawon; a
cyfrannu at y broses o ddatblygu cymdeithas sifil Cymru.
Cynhaliwyd gweithdai tebyg yn Siambr Hywel yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2011, ac ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Mawrth 2012. Yn y digwyddiadau hyn, magodd myfyrwyr ddealltwriaeth ddyfnach o wahanol ddeddfwrfeydd a llywodraethau ar lefel genedlaethol ac Ewropeaidd, ac roeddent yn gallu gwerthfawrogi sut y mae gwleidyddiaeth yn effeithio ar eu bywydau pob dydd.
Erbyn diwedd y pedwar digwyddiad hyn, bydd 30 ysgol a bron 200 o ddisgyblion wedi cymryd rhan ac wedi gwrando ar siaradwyr o Senedd Ewrop, gwasanaeth addysg Senedd y DU, a chynrychiolwyr llywodraeth leol.
Ceir rhagor o wybodaeth am wasanaeth addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru yma