Hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o wleidyddiaeth Cymru, y DU ac Ewrop ymysg disgyblion gogledd Cymru

Cyhoeddwyd 12/06/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o wleidyddiaeth Cymru, y DU ac Ewrop ymysg disgyblion gogledd Cymru

12 Mehefin 2012

Ddydd Gwener 15 Mehefin, bydd cyfle i ddisgyblion blwyddyn 12 o ysgolion yn y gogledd gymryd rhan mewn pedwar gweithdy fel rhan o’u hastudiaethau ar gyfer Bagloriaeth Cymru.

Yn ystod y digwyddiad, a fydd yn para drwy’r dydd ac a gynhelir yn swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno, bydd staff o wasanaeth addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru, swyddogion allgymorth Llywodraeth Cymru, a siaradwyr gwâdd yn amlinellu rôl sefydliadau gwleidyddol amrywiol yng Nghymru, y DU ac Ewrop.

Nod y digwyddiad yw:

  • cynorthwyo’r broses o ddysgu modiwl Cymru, Ewrop a’r Byd, sef un o fodiwlau Bagloriaeth Cymru;

  • hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r strwythurau gwleidyddol sy’n effeithio ar Gymru;

  • codi ymwybyddiaeth ynghylch yr adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr ac athrawon; a

  • cyfrannu at y broses o ddatblygu cymdeithas sifil Cymru.

Cynhaliwyd gweithdai tebyg yn Siambr Hywel yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2011, ac ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Mawrth 2012. Yn y digwyddiadau hyn, magodd myfyrwyr ddealltwriaeth ddyfnach o wahanol ddeddfwrfeydd a llywodraethau ar lefel genedlaethol ac Ewropeaidd, ac roeddent yn gallu gwerthfawrogi sut y mae gwleidyddiaeth yn effeithio ar eu bywydau pob dydd.

Erbyn diwedd y pedwar digwyddiad hyn, bydd 30 ysgol a bron 200 o ddisgyblion wedi cymryd rhan ac wedi gwrando ar siaradwyr o Senedd Ewrop, gwasanaeth addysg Senedd y DU, a chynrychiolwyr llywodraeth leol.

Ceir rhagor o wybodaeth am wasanaeth addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru yma