Iechyd meddwl a thrafnidiaeth ymhlith y pryderon i bobl ifanc Ynys Môn

Cyhoeddwyd 19/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/07/2016

​Gwasanaethau iechyd meddwl a thrafnidiaeth oedd dau o'r prif bryderon i grŵp o bobl ifanc Ynys Môn ar ôl iddynt gymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau i ddysgu am waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae 10 o bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed, â chymorth yr elusen Digartref, wedi bod yn gweithio gyda thîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Cynulliad fel rhan o brosiect Llais Cymunedol yn y cyfnod cyn etholiad y Cynulliad ar 5 Mai 2016.

Dyma a wnaeth y grŵp fel rhan o'r prosiect:

  • Cymryd rhan mewn gweithdy ar etholiad Cymru 2016;
  • Cynnal etholiad ffug;
  • Mynd i'r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad fel grŵp;
  • Cymryd rhan mewn dau weithdy llawn yn y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd.

Cynhaliwyd y gyfres o weithgareddau â'r nod o addysgu pobl ifanc am Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy eu grymuso i fynnu codi eu llais, a hefyd eu grymuso i wneud penderfyniadau.

Ymwelodd Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad Ynys Môn, â'r grŵp ym mis Ebrill ac fe groesawodd y grŵp i'r Senedd hefyd, lle cafwyd sesiwn holi ac ateb fywiog iawn.

“Ar ôl derbyn croeso cynnes gan Digartref pan ymwelais â hwy yng Nghaergybi yn Ebrill, roeddwn i’n falch o’r cyfle i’w croesawu i’r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd yr wythnos yma,” meddai Rhun.

“Cefais sgwrs ddiddorol gyda’r grŵp am y Cynulliad ac am eu pryderon Brexit ymysg pethau eraill, ac roeddwn i’n falch i glywed eu bod i gyd wedi pleidleisio yn etholiad diweddara’r Cynulliad, er gofynnais i ddim i bwy!”

Drwy'r trafodaethau a'r gweithgareddau, datblygodd y bobl ifanc sgiliau a gwybodaeth am Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac am yr Aelodau Cynulliad sy'n eu cynrychioli.

Ar ôl ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, dyma a ddywedodd Izzy, un o aelodau ifanc Digartref:

“Roedd y gweithdai yn hwyl ar y cyfan ond uchafbwynt y prosiect cyfan i mi oedd cyfarfod ag un o Aelodau Cynulliad Cymru. Roedd yn gyfle i ddangos sut rydych chi'n teimlo am Lywodraeth Cymru a sut y mae'n gallu gwella.”

Dyma a ddywedodd Maisie, person ifanc arall yn Digartref:

“Dwi wedi dysgu sut mae'r cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y Senedd ac wedi dysgu mai dim ond 10 llofnod sydd eu hangen i ddechrau deiseb.

“Mi oedd hi'n dda cael cyfarfod Rhun ap Iorwerth unwaith eto ar ôl iddo ymweld â ni yng Nghanolfan Fenter Caergybi, ac mi oedd hi'n well oherwydd i ni ei gyfarfod ar ei domen ei hun.”

Mae Kate White yn weithiwr Llais Cymunedol i Digartref Ynys Môn, a mwynhaodd hi'r ymweliad hefyd:

“Ar y cyfan, mi oedd y trip yn brofiad arbennig i bawb yn fy marn i, gan gynnwys y staff. Yn y cyfnod cyn etholiad y Cynulliad ym mis Mai, mi oedd hi'n gyffrous iawn gweld y bobl ifanc yn Digartref yn cymryd y fath ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth.

“Yn ogystal â'r sesiynau i ddysgu mwy am y Cynulliad a'r etholiad, mi oedden ni'n ddigon ffodus i gyfarfod â llawer o ymgeiswyr yr etholiad, gan gynnwys Rhun ap Iorwerth, a chafodd y bobl ifanc gyfle i holi'r cwestiynau a oedd yn bwysig iddyn nhw.

“Mi oedd hi'n gyffrous iawn ymweld â'r Senedd yr wythnos hon oherwydd bod hyn yn dangos i ni i gyd bod yn dal gennym gyfle i holi'r cwestiynau hynny a bod yn dal gennym gyfle i gael ein clywed. Dwi'n gobeithio y gallwn ni ddod eto!”

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch ni ar Twitter/Facebook @dyGynulliad neu ewch i'r wefan bwrpasol i bobl ifanc www.dygynulliad.org.