Is-Bwyllgor Datblygu Gwledig i graffu ar gyllideb ddrafft y Llywodraeth

Cyhoeddwyd 07/11/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Is-Bwyllgor Datblygu Gwledig i graffu ar gyllideb ddrafft y Llywodraeth  

Bydd Is-Bwyllgor Datblygu Gwledig y Cynulliad yn craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn cyfarfod yr wythnos hon.   Bydd y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Elin Jones yn bresennol yn y cyfarfod i ateb cwestiynau am y gyllideb, a bydd hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am TB mewn Gwartheg. Mae’r Is-Bwyllgor ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliad i TB mewn Gwartheg ac mae eisoes wedi clywed tystiolaeth gan Lywodraeth y Cynulliad, undebau’r ffermwyr, sefydliadau gwirfoddol a’r Grwp Gwyddonol Annibynnol a gyhoeddodd ei adroddiad yn gynharach eleni.   Cynhelir y cyfarfod am 10.30am ddydd Iau 8 Tachwedd yn Ystafell Bwyllgora 3, y Senedd, Bae Caerdydd.   Rhagor o wybodaeth ac agenda