Jonathan Morgan AC, Cadeirydd Pwyllgor y Cyfrifon Cyhoeddus, yn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar gynllun Cymunedau yn Gyntaf Plas Madog

Cyhoeddwyd 18/03/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Jonathan Morgan AC, Cadeirydd Pwyllgor y Cyfrifon Cyhoeddus, yn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar gynllun Cymunedau yn Gyntaf Plas Madog

18 Mawrth 2010

Mae Jonathan Morgan AC, Cadeirydd Pwyllgor y Cyfrifon Cyhoeddus, wedi ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar gynllun Cymunedau yn Gyntaf Plas Madog.

“Mae’r adroddiadau gan Swyddfa Archwilio Cymru a gwasanaeth archwilio mewnol Llywodraeth y Cynulliad ill dau yn peri pryder. Mae’n amlwg bod Cymunedau yn Gyntaf Plas Madoc wedi bod yn camddefnyddio cyllid cyhoeddus ers nifer o flynyddoedd ac mae angen cymryd camau brys i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto.

“Mae’r sefyllfa’n fwy anffodus fyth gan fod gwasanaethau cyhoeddus o dan bwysau ariannol mawr, fel y disgrifiwyd yn gynharach yr wythnos hon yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, ‘Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus”.