Lansio Catalog Cofnodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 20/02/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/02/2018

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru â Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch heddiw o lansio Catalog Cofnodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn diogelu cofnodion y Cynulliad i’r dyfodol. 

Dros y chwe mis diwethaf crëwyd strategaeth arhifau er mwyn sicrhau fod archif o gofnodion y Cynulliad ar gael i ddefnyddwyr y Llyfrgell Genedlaethol. 

Mae'r digwyddiad hwn yn dathlu cwblhau'r prosiect peilot yn llwyddiannus trwy lansio'r catalog ddwyieithog ar wefan y Llyfrgell, er mwyn rhoi mynediad i gynulleidfa fyd-eang  i wybodaeth am y casgliad a mynediad i'r casgliad ffisegol yn y Llyfrgell.

Mae’r cofnodion yn cynnwys deddfwriaeth, adroddiadau pwyllgorau, datganiadau Llywodraeth Cymru a’r Trafodion – sef yr hyn sy’n cyfateb yn y Cynulliad i Hansard - ac maent wedi cael eu harchifo gan y Llyfrgell Genedlaethol. 

Mae’r prosiect yn golygu bod copiau caled ac electroneg o ddogfennau ar gael i’r cyhoedd gan ategu ymrwymiad y Cynulliad i fod yn agored ac yn dryloyw.

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

“Rwyf wedi ymrwymo i ddemocratiaeth tryloyw ac yr wyf eisiau sicrhau fod ein cofnodion seneddol yn hygyrch a hawdd eu chwilio gan ddefnyddwyr heddiw ac ymchwilwyr y dyfodol, a hynny er mwyn ein helpu i fedru dweud stori ein corff deddfwriaethol. Mae’r Cynulliad yn ffodus i gael Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel partner sydd mewn sefyllfa ddelfrydol i’n cynorthwyo gyda diogelu’r archif pwysig ac unigryw hwn i’r dyfodol”. 

Ychwanegodd Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae derbyn archif a chofnodion ein Cynulliad Cenedlaethol yn ychwanegiadau pwysig i’n casgliadau cenedlaethol. Rydym yn ddiolchgar i Lywydd y Cynulliad am iddi gydnabod pwysigrwydd yr archif hwn a’i pharodrwydd i drosglwyddo’r cofnodion i ofal y Llyfrgell Genedlaethol. Ymhen amser bydd haneswyr cyfansoddiadol y dyfodol yn profi gwerth yr archif yma wrth iddyn nhw ymchwilio i flynyddoedd cynnar ein Cynulliad”.