Dyn mewn apwyntiad gyda meddyg teulu

Dyn mewn apwyntiad gyda meddyg teulu

Lansio ymchwiliad i Ddyfodol Meddygaeth Deulu yng Nghymru

Cyhoeddwyd 10/07/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/07/2025

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd wedi lansio ymchwiliad mawr i’r argyfwng cynyddol sy’n wynebu gwasanaethau Meddygaeth Deulu yng Nghymru. Nod yr ymchwiliad yw cyflwyno argymhellion brys ac ymarferol i Lywodraeth Cymru er mwyn diogelu dyfodol gwasanaethau meddygaeth deulu.

Mae’r ymchwiliad yn dechrau heddiw, sef dydd Iau 10 Gorffennaf, gyda sesiwn dystiolaeth allweddol, a fydd yn dod ag aelodau o’r gweithlu meddygaeth deulu o bob cwr o Gymru ynghyd i glywed yn uniongyrchol am eu profiadau a’u sylwadau. Bydd panel o weithiwr proffesiynol yn rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor mewn sesiwn gyhoeddus y prynhawn yma am 12:15pm, a fydd yn cael ei darlledu’n fyw ar senedd.tv

Hefyd, mae profiadau meddygon teulu, nyrs practis, a rheolwr practis wedi’u cofnodi yn y fideo yma i roi cofnod uniongyrchol o'r pryderon allweddol, gan gynnwys pryderon am y model ariannu, recriwtio a chadw’r gweithlu, ac effaith niweidiol trafodaeth gyhoeddus a gwleidyddol negyddol ar forâl a gofal cleifion.

 

 

Mae Dr James Pink, partner mewn meddygfa deulu, yn esbonio sut mae trefn y model ariannu yn niweidio gwasanaethau: “Dyw hyn ddim yn gweithio yng Nghymru mewn gwirionedd, mae’n golygu bod gennym ni broblem yn yr ardal hon lle ni yw’r bwrdd iechyd sy’n cael y lleiaf o arian yn y DU gyfan. Yn amlwg, mae hyn yn effeithio fwyaf ar ein cleifion.”

Mae llwyth gwaith cynyddol yn rhoi pwysau annioddefol ar feddygon teulu, yn ôl Dr Meilyr Gruffudd: “Rwy’n aml yn gweithio gyda’r nos ac ar fy niwrnodau i ffwrdd. Byddai gallu recriwtio mwy o staff yn helpu... ond allwn ni ddim fforddio eu cyflogi. Mae’r cynnydd yn y taliad Yswiriant Gwladol yn cyfateb i gyflog un aelod o staff.”

Mae naratif negyddol yn niweidio morâl a pherthnasau staff a chleifion, yn ôl John Williams, rheolwr practis a phartner: “Mae yna naratif anffodus nad yw meddygon teulu yn gweld cleifion. Mae hynny’n effeithio ar gadw, recriwtio a morâl staff, ond mae hefyd yn gostwng disgwyliadau cleifion ac yn gwneud perthnasoedd yn anodd.”

Mae Nia Boughton yn nyrs ymgynghorol ar gyfer gofal sylfaenol. Ymhlith ei blaenoriaethau mae recriwtio brys ar gyfer gweithlu sy'n agosáu at ymddeoliad: “Fe hoffwn i weld buddsoddiad yn y gweithlu mewn nyrsio gofal sylfaenol. Mae 50% o’n gweithlu dros 55 oed. Os na fyddwn ni’n gweithredu’n gyflym nawr, fe fyddwn ni’n wynebu trychineb.”

Gwasanaeth dan bwysau sylweddol

“Rydym yn cychwyn ar ymchwiliad hanfodol i ddatgelu achosion sylfaenol y pwysau sy’n wynebu ein gwasanaethau meddygaeth deulu. O’r dystiolaeth fideo sydd eisoes wedi’i chyflwyno, mae’n amlwg bod y gwasanaeth hwn o dan bwysau sylweddol gan olygu bod dim amheuaeth ynghylch pwysigrwydd yr ymchwiliad hwn,” meddai Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, Peter Fox AS. 

“Rydym yn gwybod bod cymunedau ledled Cymru yn teimlo rhwystredigaeth, ac rydym yn benderfynol o wrando, craffu ar yr hyn y mae’r llywodraeth yn ei wneud, ac argymell atebion y mae’n rhaid gweithredu arnynt heb oedi.

“Rydym yn ddiolchgar i’r nifer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n ymuno â ni heddiw. Bydd eu tystiolaeth yn ganolog i’r ymchwiliad hwn, a fydd yn flaenoriaeth i ni drwy gydol tymor yr hydref yn y Senedd.”

Bydd mwy o sesiynau tystiolaeth gyda Byrddau Iechyd, cynrychiolwyr cleifion a rhanddeiliaid eraill yn digwydd o fis Medi ymlaen. Bydd y dystiolaeth a gesglir yn cael ei chyflwyno i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Jeremy Miles AS, pan fydd y Pwyllgor yn craffu ar ei waith cyn i'r ymchwiliad ddod i'w gasgliad.

Bydd adroddiad, a fydd yn cynnwys argymhellion y Pwyllgor, yn cael ei gyhoeddi a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru i gael ymateb, cyn dadl yn y Senedd.

Darllen mwy 

Dysgwch fwy am waith y Pwyllgor a'r dystiolaeth gan weithwyr gofal proffesiynol