Lefelau staffio newyddenedigol yn peri gofid difrifol i un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 12/09/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Lefelau staffio newyddenedigol yn peri gofid difrifol i un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

12 Medi 2012

Mae Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hynod bryderus am brinder staff meddygol a staff nyrsio sydd ar gael mewn unedau newyddenedigol yng Nghymru, yn enwedig yn y Gogledd.

Fel rhan o’i ymchwiliad i wasanaethau newyddenedigol, clywodd y Pwyllgor bod prinder nyrsys newyddenedigol sydd wedi cael eu hyfforddi yn effeithio ar bob bwrdd iechyd a bod cyfradd Safonau Newyddenedigol Cymru Gyfan o ran niferoedd staff i bob baban ymhell o gael eu bodloni.

Roedd y Pwyllgor hefyd wedi dychryn i glywed bod prinder staff meddygol yn golygu bod nifer o fyrddau iechyd yn ddibynnol ar bediatregwyr yn hytrach na neonatolegwyr i helpu gyda’u gwasanaethau newyddenedigol.

Yn ei adroddiad, mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan fyrddau iechyd lleol gynlluniau ar gyfer mynd i’r afael â’r prinder mewn lefelau staff meddygol a nyrsio ac i sicrhau bod unrhyw faban sy’n cael ei eni yng Nghymru, ac sydd angen gofal dwys newyddenedigol, yn derbyn gofal gan neonatolegydd.

Ar hyn o bryd mae 13 uned gofal i’r newydd-anedig yng Nghymru. Derbynnir tua 4,000 o fabanod i’r unedau newyddenedigol hyn bob blwyddyn. Mae hyn gyfwerth â thua un o bob naw baban a gaiff ei eni yng Nghymru.

Sefydlwyd yr ymchwiliad i asesu’r cynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud ers i’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol blaenorol gynnal ymchwiliad ddwy flynedd yn ôl, a chanfod bod prinder staff mewn unedau yng Nghymru, eu bod yn brin o offer a’u bod yn orlawn. Gwnaeth y Pwyllgor 18 o argymhellion yn ei adroddiad, a derbyniwyd bob un ohonynt gan Lywodraeth Cymru.

Un broblem yn benodol y daeth y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar ei thraws oedd y prinder cotiau dibyniaeth ddwys. Canfu hefyd bod angen gwneud mwy i sicrhau bod babanod sydd angen gofal arbennig arnynt yn cael y cotiau sydd fwyaf priodol i ddiwallu eu hanghenion.

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio â byrddau iechyd lleol a Rhwydwaith Newyddenedigol Cymru Gyfan i sicrhau bod y nifer ofynnol o gotiau, ar bob lefel o ofal, ar gael ac y cânt eu staffio’n ddigonol.

Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc: "Er ein bod yn cydnabod bod ymarferion recriwtio ac ad-drefnu wedi’u cyflwyno mewn sawl ardal yng Nghymru, rydym yn parhau i bryderu’n ddifrifol am lefelau staffio meddygol a nyrsio mewn byrddau iechyd lleol yng Nghymru."

"Gwyddom fod staff mewn unedau newyddenedigol yng Nghymru yn gweithio o dan bwysau difrifol, a chredwn fod gorddibyniaeth ar ewyllys da ac ymroddiad gweithwyr proffesiynol i gynnal unedau sy’n brin o adnoddau.

"Er ein bod wedi gweld cynnydd ers adroddiad y Pwyllgor diwethaf, mae lle i wella. Rydym am weld gweithredu’n digwydd, yn lleol ac yn genedlaethol, er mwyn sicrhau gwasanaeth sydd bob amser o ansawdd uchel ar gyfer ein babanod mwyaf bregus."

Dywedodd Andy Coles, Prif Weithredwr Bliss, “Mae Bliss yn croesawu’r adroddiad hwn i ofal newyddenedigol yng Nghymru. Mae hwn yn gyfle i wella’r gofal sy’n cael ei roi i fabanod sâl a babanod sy’n cael eu geni’n gynnar a’u teuluoedd, a dylid cymryd y camau hyn ar unwaith.

“Mewn blynyddoedd diweddar gwnaethpwyd cynnydd o ran gwella gwasanaethau newyddenedigol, ond mae llawer i’w wneud o hyd i sicrhau bod y gofal gorau yn cael ei roi i’r babanod bregus hyn a’u teuluoedd yng Nghymru.”