Llyfrgell Genedlaethol Cymru - datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cyhoeddwyd 05/12/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​Mae Nick Ramsay AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, wedi rhyddhau'r datganiad a ganlyn mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru - 'Llyfrgell Genedlaethol Cymru - Adolygiad o Lywodraethiant'.

Dywedodd Mr Ramsay:

"Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn adnodd hanfodol i bobl Cymru.

"Mae ei chasgliad helaeth yn bwysig yn genedlaethol a rhyngwladol wrth roi mynediad at bob math o wybodaeth gofnodedig, yn enwedig mewn perthynas â Chymru a phobloedd Celtaidd eraill, i'r cyhoedd, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud ag ymchwil a dysg.

"Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn tynnu sylw at welliannau i agweddau pwysig ar lywodraethiant a rheolaeth y Llyfrgell yn dilyn cyfnod anodd.

"Mae'r Llyfrgell yn dal i wynebu rhai heriau sylweddol i sefydlu ei gynaliadwyedd wrth ymateb i ostyngiadau yng nghyllid Llywodraeth Cymru.

"Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr angen i Lywodraeth Cymru, fel Noddwr y Llyfrgell, chwarae ei rhan yn y broses honno.

"Yn benodol, rwy'n croesawu cyfeiriadau'r Archwilydd Cyffredinol at waith Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad diwethaf, a'r argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru egluro ei safbwynt mewn ymateb i waith y pwyllgor."

"Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn trafod adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol maes o law."