Croesawodd y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru Lywodraethwr Chubut i'r Senedd.
Mae Chubut yn dalaith yn ne'r Ariannin, yn rhanbarth Patagonia. Ym 1865, cyrhaeddodd 153 o ymsefydlwyr Cymreig Chubut, a 150 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae'n parhau i fod y gymuned iaith Gymraeg fwyaf o bell ffordd y tu allan i Gymru.
Mae ffocws yr ymweliad ar Gymru cyn y garreg filltir y flwyddyn nesaf, sef 150 o flynyddoedd ers y daith a wnaed gan yr ymsefydlwyr Cymreig cyntaf a gyrhaeddodd ym Mhuerto Madryn ar y llong Mimosa
.
Daeth cynrychiolwyr o ardaloedd Cymraeg Trelew a'r Gaiman gyda'r Llywodraethwr ar ei ymweliad â Chymru, a oedd yn cynnwys taith i'r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli.
Dywedodd y Fonesig Rosemary: "Mae'r ffaith bod gennym gymuned Gymraeg ar ben arall y byd bob amser yn rhywbeth sy'n fy rhyfeddu.
"Mae'r ffaith y byddwn yn dathlu 150 o flynyddoedd ers sefydlu'r gymuned honno hyd yn oed yn fwy rhagorol.
"Roedd yn bleser croesawu Llywodraethwr Chubut i Gymru, ac i'r Senedd yn arbennig, lle rydym yn gwbl ymrwymedig i sicrhau bod gan y Gymraeg yr un statws â'r Saesneg fel un o'n hieithoedd swyddogol.
"Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cydnabod pwysigrwydd y garreg filltir y bydd y cymunedau Cymreig ym Mhatagonia yn ei dathlu y flwyddyn nesaf ac rwyf wedi dweud wrth y Llywodraethwr bod y Cynulliad Cenedlaethol yn awyddus i gymryd rhan yn y dathliadau hynny."