Llywydd a Dirprwy Lywydd newydd wedi’u hethol

Cyhoeddwyd 12/05/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/05/2026   |   Amser darllen munudau

Heddiw, mae Aelodau o'r Senedd wedi ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd newydd yng Nghyfarfod Llawn cyntaf y Senedd newydd.

Cafodd Huw Irranca-Davies AS ei ethol yn Llywydd, ac ef fydd yn gyfrifol am gadeirio Cyfarfodydd Llawn, sicrhau bod y Senedd yn cynnal ei busnes yn deg ac yn ddiduedd, a chynrychioli'r Senedd yng Nghymru a thu hwnt.

Yn dilyn hyn, cafodd Kerry Ferguson AS ei hethol yn Ddirprwy Lywydd. Bydd yn gyfrifol am gefnogi'r Llywydd o ran goruchwylio'r trafodion yn y Siambr a chyflawni dyletswyddau'r rôl pan fo angen.

Ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd yw un o'r dyletswyddau cyntaf a gyflawnir gan y Senedd ar ôl etholiad, ac mae'n hanfodol o ran galluogi'r Senedd i gynnal ei busnes ar ran pobl Cymru.

Wrth annerch Aelodau o’r Senedd, dywedodd Huw Irranca-Davies AS, sef y Llywydd newydd:

“Rwy'n addo gweithio gyda phob Aelod o'r Senedd i sicrhau bod ein Senedd yn bodloni'r disgwyliadau uchel sydd ar y sefydliad hwn. Bod y Senedd yn berthnasol i bob rhan o Gymru, yn cysylltu â phawb yng Nghymru, a bod ein democratiaeth yn cael ei chryfhau drwy ein buddiant cyffredinol a’n hymdrechion fel seneddwyr. Byddaf yn cyflawni'r rôl hon trwy fod yn agored a thrwy gydweithio, bod yn deg ac yn ddiduedd.

“Rwy’ bob amser yn awyddus i sicrhau bod y Senedd hon a phob un ohonon ni sydd â'r fraint o gynrychioli ein hetholwyr yn gwneud hynny gyda pharch at ein gilydd yn y ffordd rydyn ni’n ymgysylltu â’n gilydd ac yn cynnal dadleuon. Gyda pharch at ein prosesau democrataidd a pharch at bobl Cymru yn ein holl amrywiaeth ogoneddus.

Cymerodd y Llywydd y Gadair yn syth ar ôl cael ei ethol, a bydd yn goruchwylio camau nesaf y Senedd wrth iddi ymgymryd â’i busnes cynnar.