Llywydd y Cynulliad yn croesawu barn y cyhoedd am ddatganoli – Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi canlyniadau llawn ei arolwg

Cyhoeddwyd 14/10/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Llywydd y Cynulliad yn croesawu barn y cyhoedd am ddatganoli – Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi canlyniadau llawn ei arolwg

Heddiw (ddydd Llun, 13 Hydref), cyhoeddodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ganlyniadau un o’r arolygon barn mwyaf eang erioed i gael ei gynnal yng Nghymru i ganfod barn pobl am ddatganoli a’u dealltwriaeth o sut mae’r Cynulliad yn gweithio.  

Comisiynwyd yr arolwg gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a chafodd ei gynnal gan Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, ar y cyd â chwmni ymchwil a marchnata GfKNOP. Holwyd dros 2,500 o bobl ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2008.

Mae’r canfyddiadau pwysicaf o’r arolwg yn dangos y canlynol:

  • bod y gefnogaeth yn cynyddu dros roi mwy o bwerau deddfu i’r Cynulliad;

  • bod gwrthwynebiad y cyhoedd i ddatganoli’n dal i ddirywio. Dim ond 15% sydd am gael gwared ar y Cynulliad, ac mae’r ffigwr hwnnw wedi haneru ers 1999;

  • bod gan y cyhoedd fwy o ddiddordeb yng ngwleidyddiaeth Cymru ac yng ngwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • bod barn pobl am y Cynulliad Cenedlaethol a’u dealltwriaeth ohono yn gyson drwy wahanol ranbarthau Cymru;  

  • bod y gwahaniaeth rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn achosi dryswch i nifer o bobl Cymru;

  • bod mwyafrif clir o bobl Cymru yn deall cylch gwaith y Cynulliad a’r pwerau sydd ganddo ar hyn o bryd;

mai’r newyddion ar y teledu yw prif ffynhonnell pobl wrth gael gwybodaeth am wleidyddiaeth Cymru.

Roedd 70 y cant o’r rhai a holwyd o blaid datganoli. Roedd mwyafrif y rhai a ymatebodd (39 y cant) am i Gymru barhau’n rhan o’r DU ond gyda’i Senedd etholedig ei hun a phwerau deddfu a threthu llawn. Roedd 31 y cant o’r bobl am i’r Cynulliad gadw ei bwerau presennol, a 10 y cant am i Gymru fod yn genedl gwbl annibynnol.

Meddai’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Llywydd a Chadeirydd Comisiwn y Cynulliad:

“Mae canlyniadau’r arolwg yn rhoi ffynhonnell wybodaeth hynod o werthfawr i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Credaf fod yr arolwg yn dangos bod gan bobl Cymru gryn ddiddordeb yng ngwaith y Cynulliad, ac mae hynny’n galonogol. Mae’n dangos hefyd fod cefnogaeth gynyddol dros ehangu pwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Roeddem yn awyddus i gael canlyniadau awdurdodol, cyfredol a chynhwysfawr, ac mae’r arolwg hwn yn darparu hynny.

“Wrth i ni nesáu tuag at ddeng mlynedd ers sefydlu’r Cynulliad, mae’r arolwg hwn yn her i ni i gyd i ailafael yn ein gwaith â brwdfrydedd newydd yn ail ddegawd datganoli, ac rwy’n sicr y bydd yn ein hysbrydoli i edrych ar sut y gallwn weithio’n well fel Aelodau’r Cynulliad a chryfhau ein perthynas â phobl Cymru.”

Gallwch weld yr adroddiad yma

Nodiadau i olygyddion:

  1. Comisiynwyd Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru gan Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol i ymchwilio i farn y cyhoedd am Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’u gwybodaeth amdano. Is-gontractiwyd cwmni GfKNOP gan Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru i gynnal yr arolwg ei hun.

  2. Roedd yr ymchwil yn ceisio rhoi sylw i nifer o faterion penodol:

    - Canfod barn gyffredinol y cyhoedd am y Cynulliad Cenedlaethol a datganoli, ac am roi rhagor o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol
    - Canfod faint o ddiddordeb sydd gan y cyhoedd ynghylch y Cynulliad Cenedlaethol a’u gwybodaeth amdano; ac
    -Edrych ar ffynonellau gwybodaeth y cyhoedd am wleidyddiaeth yn gyffredinol, ac am y Cynulliad Cenedlaethol yn benodol

    Ar y materion hyn i gyd, gofynnwyd i’r tîm ymchwil gasglu data y gellid ei rannu yn ôl rhanbarth neu ddulliau grwpio eraill.

  3. Cafodd y sampl ar gyfer yr arolwg ei ddewis drwy ddeialu rhifau ar hap, o blith pob llinell ffôn bosibl yng Nghymru. Cafodd y sampl ei rannu rhwng sectorau cod post yn y pum etholaeth ranbarthol yng Nghymru, a sgriniwyd yr ymatebwyr posibl i sicrhau eu bod yn gymwys. Cynhaliwyd yr arolwg gan ddefnyddio techneg cyfweld cyfrifiadurol dros y ffôn (CATI).

  4. Cynhaliwyd 2,538 o gyfweliadau drwy Gymru ym mis Mehefin a dechrau mis Gorffennaf 2008. Er mwyn sicrhau bod y sampl yn gynrychioladol o’r boblogaeth sy’n oedolion, rhoddwyd cwotâu ar oedran, nifer y bobl o bob rhyw ym mhob statws cyflogaeth, a rhanbarth etholiadol.

  5. Cafodd data’r arolwg ei bwysoli er mwyn cywiro mân wahaniaethau rhwng y sampl a natur y boblogaeth. Cynigiwyd cyfweld pawb yn Gymraeg neu’n Saesneg.