Llywydd y Cynulliad yn croesawu ymrwymiad S4C i ddarlledu gwaith y Cynulliad
26 Mawrth 2010
Mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad, wedi croesawu datganiad S4C y bydd yn darlledu trafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
O fis Ebrill, bydd Cyfarfodydd Llawn y Cynulliad ynghyd â rhai pwyllgorau’n cael eu darlledu ar brif sianel S4C ar nos Fawrth, nos Fercher a nos Iau.
Mae hynny’n golygu y bydd gwylwyr ledled y DU yn gallu gwylio trafodion y Cynulliad ar sianel sy’n cyrraedd holl gartrefi Cymru.
“Mae hwn yn newyddion da i’r broses ddemocrataidd yng Nghymru,” meddai’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.
“Mewn unrhyw sefydliad democrataidd modern, mae’n hanfodol bod pleidleiswyr yn gallu gwylio gwaith ei aelodau er mwyn gallu gwneud penderfyniadau deallus wrth bleidleisio.
“Un o brif amcanion strategol y Trydydd Cynulliad yw cynyddu cyfranogaeth yn y broses ddemocrataidd a hoffwn ddiolch i’n partneriaid yn S4C am chwarae rhan bwysig yn ein helpu i gyrraedd y nod hwnnw.
“Bydd hefyd yn ategu Senedd TV, sef ein sianel ni ar y we, sy’n darlledu’r holl drafodion yn fyw.”