Mae angen i addysg fod yn rhan hanfodol o weithredu Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) pe bai’n dod yn gyfraith, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol.
Nod y Bil Senedd ac Etholiadau, ymhlith pethau eraill, yw gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol i 16 mlwydd oed, a newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Wrth gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn pryderu am ddiffyg ymddangosiadol cynllun gweithredu ar gyfer codi ymwybyddiaeth ddigonol ac addysg am ostwng yr oedran pleidleisio.
Daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oedd Comisiwn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddigon clir ynglŷn â chynllun o’r fath ac mae wedi amlygu, os yw pobl ifanc 16 a 17 oed i bleidleisio yn etholiad y Cynulliad yn 2021, fod yr amser sydd ar gael i weithredu rhaglen addysg yn heriol.
Teimlai’r Pwyllgor hefyd fod y gwaith o baratoi ar gyfer etholiad 2021 yn gyfle pwysig i wella addysg am wleidyddiaeth a dinasyddiaeth yn gyffredinol, ac i bob grŵp oedran.
Gofynnodd y Pwyllgor am farn pobl ifanc, ac roedd yr aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru ymhlith y rhai a gyfrannodd eu barn. Mewn trafodaeth ar-lein, dywedwyd wrth y Pwyllgor:
“Byddai gostwng yr oedran pleidleisio yn sicrhau bod pobl ifanc yn cael dweud eu dweud am eu dyfodol. Er fy mod yn credu’n gryf y byddai gwneud hynny’n fuddiol, byddai’n rhaid i ysgolion addysgu am wleidyddiaeth heb ragfarn fel y gall pobl ifanc wneud dewis ac ystyried yr holl ganlyniadau."
Dywedodd Mick Antoniw AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol:
“Rydym yn argyhoeddedig o’r angen am addysg ddigonol a gwaith i godi ymwybyddiaeth er mwyn gweithredu’r Bil yn briodol. Rydym yn pryderu, fodd bynnag, am ddiffyg ymddangosiadol cynllun gweithredu cydlynol.
“Er y bu cydnabyddiaeth bod pawb yn gweithio gyda’i gilydd yn ôl amcan a ddeellir yn fras, nid ydym yn glir o ran pwy sy’n arwain ar y gwaith hwn yn barod ar gyfer etholiad y Cynulliad yn 2021.”
Mae’r Pwyllgor wedi galw am ragor o eglurder ynghylch gallu’r cwricwlwm presennol i gynnwys y newidiadau sydd eu hangen i ddarparu addysg am wleidyddiaeth a dinasyddiaeth.
O ran enw’r sefydliad, er ei fod yn nodi’r amrywiaeth o safbwyntiau a ddarparwyd yn y dystiolaeth, daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod yn rhaid i’r dewis o enw fod yn benderfyniad a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gyfanrwydd ac felly nid yw wedi dod i benderfyniad ar enw dewisol.
Mae maes pryder arall i’r Pwyllgor yn ymwneud ag adran 27 o’r Bil sy’n ymwneud â’r Comisiwn Etholiadol a’i atebolrwydd i’r Cynulliad Cenedlaethol.
Yn hytrach na chynnwys sut y byddai’r trefniadau newydd hyn yn gweithio yn y Bil pan gafodd ei gyflwyno, y bwriad yw ymdrin â’r mater hwn drwy gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 o broses ddeddfu’r Cynulliad. Mae’r Pwyllgor yn credu bod nodweddion rhuthro i ddeddfu yn gysylltiedig â’r dull gweithredu hwn, a hynny heb unrhyw resymau pendant.
Mae’r Pwyllgor wedi argymell y dylid dileu adran 27 o’r Bil ac wedi awgrymu y gellid ei chynnwys ym Mil llywodraeth leol arfaethedig Llywodraeth Cymru, a allai gynnwys trefniadau ar gyfer etholiadau lleol.
Byddai hyn, mae’r Pwyllgor yn credu, yn caniatáu cyflawni gwaith craffu llawn ar y darpariaethau hynny yn gynharach yn y broses ddeddfu, gan ganiatáu ymgysylltu â rhanddeiliaid ar fanylion y darpariaethau ac nid ar y bwriad polisi yn unig.
Mae’r Pwyllgor yn gwneud 19 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:
- Dylai pob Bil sy’n ymwneud â materion cyfansoddiadol sylweddol gael eu cyhoeddi ar ffurf drafft ac, yn unol â hynny, dylid cynnwys amser yn y broses ddeddfwriaethol i alluogi hyn i ddigwydd;
- Dylai’r Gweinidog Addysg gyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn esbonio sut y caiff addysg am ddinasyddiaeth a gwleidyddiaeth ei chyflwyno mewn pryd ar gyfer etholiad y Cynulliad yn 2021;
- Dylai’r Llywydd gyhoeddi datganiad ysgrifenedig cyn gynted â phosibl sy’n manylu ar y cyllid sy’n cael ei ddarparu gan bob corff sy’n cyfrannu at waith codi ymwybyddiaeth ac addysg yn barod ar gyfer etholiad y Cynulliad yn 2021
Cyflwynwyd Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) ar ôl i’r Cynulliad Cenedlaethol gael pwerau dros ei etholiadau ei hun o dan Ddeddf Cymru 2017.
Ym mis Tachwedd 2017, argymhellodd y Panel Arbenigol annibynnol ar Ddiwygio Etholiadol, o dan arweiniad yr Athro Laura McAllister, y dylid ymestyn y fasnachfraint bleidleisio yng Nghymru i gynnwys pobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed, fel y mae yn yr Alban. Ni fyddai Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) yn gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau lleol nac etholiadau cyffredinol y DU.
Darllen yr adroddiad llawn:
Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru): Adroddiad Cyfnod 1 (PDF, 1 MB)