Mae angen cronfa wedi’i neilltuo er mwyn mynd i’r afael â chartrefi gwag, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 22/03/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mae angen cronfa wedi’i neilltuo er mwyn mynd i’r afael â chartrefi gwag, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad

22 Mawrth 2011

Yn ôl adroddiad gan Bwyllgor Cymunedau a Diwylliant Cynulliad Cenedlaethol Cymru, dylai Llywodraeth Cymru sefydlu cronfa sy’n galluogi awdurdodau lleol i fenthyca’r arian i landlordiaid er mwyn iddynt ailddechrau defnyddio eiddo gwag.

Mae’r adroddiad, gan grwp trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad, yn awgrymu y gall amodau fod ynghlwm â’r benthyciadau, er enghraifft bod tai y defnyddir yr arian er mwyn ailddechrau’u defnyddio yn cael eu defnyddio yn dai ar gyfer y rhai sy’n agored i niwed yn ein cymdeithas.

Mae’n nodi y byddai’r system hon yn rhatach ac yn fwy cynaliadwy nac adeiladu tai newydd, yn helpu busnesau lleol ac yn ffordd o ddiwallu amcanion ehangach y gymuned.

Mae’r adroddiad, sy’n edrych ar bob agwedd ar y sector tai rhent preifat yng Nghymru, yn tynnu sylw at y ffaith bod angen rheoliadau gwell ar gyfer landlordiaid ac asiantaethau gosod.

Mae’n argymell bod Llywodraeth Cymru’n parhau i hyrwyddo Achredu Landlordiaid Cymru (ac yn gwneud y cynllun yn fwy deniadol) – cynllun sy’n ei gwneud yn ofynnol bod landlordiaid yn cadw at god ymddygiad ac yn mynd ar gyrsiau hyfforddi datblygiad proffesiynol.  

Mae hefyd yn nodi pryderon ynghylch anwybodaeth rhai tenantiad o ran diogelu deiliadaeth ac yn awgrymu bod angen gwneud rhagor er mwyn codi ymwybyddiaeth tenantiaid o’u hawliau wrth rentu eiddo.

Rhai o argymhellion eraill yr adroddiad yw hyrwyddo a datblygu Cynlluniau Asiantaethau Gosod Cymdeithasol a Chynlluniau Rhentu Preifat gan awdurdodau lleol.

Dywedodd Sandy Mewies AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Er nad yw hwn yn faes sydd wedi denu llawer o sylw, mae’r sector rhentu preifat yn un sy’n chwarae rôl allweddol o ran diwallu anghenion tai yng Nghymru.

“Tynnodd ein hymchwiliad sylw at sawl maes lle y gellid gwella’r sector er mwyn darparu tai gwell a safonau rheoli uwch.

“Cafwyd sawl syniad arloesol ynghylch sut y gellid defnyddio’r sector i fynd i’r afael ag amcanion cymunedau tra’n cynnig busnes proffidiol i landlordiaid; er enghraifft, cronfa y gellir ei hailgylchu a fyddai’n galluogi datblygwyr i ailddechrau defnyddio eiddo gwag.

“Rydym yn falch bod y Llywodraeth wedi ymateb yn galonogol a chyflym i’n hadroddiad, ac rydym yn gobeithio y bydd ein hargymhellion yn cael eu defnyddio ar gyfer datblygu’r sector pwysig hwn yn y dyfodol.”

Bydd yr adroddiad yn cael ei lansio yng nghynadledd y Sefydliad Tai Siartredig ar 22 Mawrth.

Dywedodd Keith Edwards, Cyfarwyddwr Cangen Cymru o’r Sefydliad Tai Siartredig: “Mae Cangen Cymru o’r Sefydliad Tai Siartredig yn croesawu’r adroddiad hwn sy’n rhoi sylw i’r rôl allweddol y bydd y sector rhentu preifat yn ei chwarae yn system tai Cymru yn y dyfodol.

“Rydym yn cefnogi argymhellion yr adroddiad yn gryf, sydd â’r nod o wella ansawdd tai a safonau rheoli o fewn y sector ac sy’n cynnig cynigion arloesol ac ymarferol er mwyn ailddechrau defnyddio tai gwag.

“Rydym yn edrych ymlaen i weithio â’r Llywodraeth er mwyn cefnogi’r sector tai i ddatblygu sector rhentu preifat o safon uchel ar gyfer Cymru yn y dyfodol.”