Plant

Plant

Mae angen Gweinidog penodedig ar Gymru i fynd i'r afael â thlodi plant

Cyhoeddwyd 06/11/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2023   |   Amser darllen munudau

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 28% o holl blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Dyna 8 plentyn mewn dosbarth o 30.

Heddiw, mae Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd yn galw am benodi Gweinidog penodedig ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc er mwyn ymateb yn fwy cydlynol wrth fynd i'r afael â thlodi plant.

Mae adroddiad y Pwyllgor, Amser rhoi diwedd ar dlodi plant: sut y gall Cymru wneud yn well yn argymell adolygiad trylwyr o ddulliau Llywodraeth Cymru wrth iddi adolygu ei strategaeth ddrafft tlodi plant newydd.

Dywedodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd:

“Mae mwy o blant a phobl ifanc yn byw mewn tlodi nag unrhyw grŵp oedran arall – rydyn ni angen rhoi diwedd ar dlodi plant.

“Does gan blant ddim reolaeth dros eu hamgylchiadau; mae'r caledi maen nhw'n ei wynebu yn cael ei orfodi arnyn nhw. Mae’r anghyfiawnder hwn yn un difrifol nad yw’n cyd-fynd ag unrhyw wlad sy’n honni ei bod yn hybu tegwch.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru osod targedau heriol a realistig i’w hun a phenodi Gweinidog sydd â chyfrifoldeb penodol dros y prif ffactorau er mwyn lleihau tlodi plant.

“Rydym yn gwybod, o'r gwaith rhagorol a wnaed mewn gwledydd eraill, fod gofal plant ac addysg gynnar yn hanfodol ac rydym am i Lywodraeth Cymru wario arian ychwanegol yn darparu gofal plant cyson a fforddiadwy.

“Heddiw, rydym ni'n nodi chwech argymhelliad clir i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru gyda’r nod o roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn.”

Penodi Gweinidog penodedig

O dan drefniadau presennol Llywodraeth Cymru, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol sy'n gyfrifol am fynd i'r afael â thlodi plant, tra bod y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn arwain ar faterion lles plant, a’r Gweinidog Addysg yn gyfrifol am addysg a chymwysterau.

Mae Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y gorffennol bod “pob aelod o'r Cabinet yn gyfrifol am hawliau plant.”

Mae'r Pwyllgor yn galw am un Gweinidog i fod yn atebol am les ac hapusrwydd babanod, plant a phobl ifanc. Dylai'r rôl hon gynnwys cyfrifoldeb cyffredinol am fynd i'r afael â thlodi plant a gweithredu hawliau plant, ynghyd â meysydd allweddol eraill fel gofal plant, addysg a chefnogi teuluoedd.

Gosod targedau clir

Mae tystiolaeth gan arbenigwyr fel yr NSPCC a Sefydliad Bevan a data o wledydd eraill wedi dangos bod yn rhaid cael targedau clir i ganolbwyntio’r ffocws ar leihau tlodi plant.

Mae'r adroddiad heddiw yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru osod targedau dros dro a rhai hirdymor ar gyfer lleihau tlodi plant, gan ddysgu o'r gwaith a wnaed mewn gwledydd eraill fel yr Alban, Norwy a Seland Newydd.

Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod targedau; gan argymell y dylai'r llywodraeth anelu at ostyngiadau uchelgeisiol a realistig i blant sydd mewn tlodi cymharol, tlodi absoliwt, amddifadedd materol a thlodi parhaus.

Pwysigrwydd gofal plant

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gref gan weithwyr proffesiynol yn Norwy yn pwysleisio pwysigrwydd gofal plant ac addysg y blynyddoedd cynnar.

Dywedodd yr Athro Mari Rege, o Brifysgol Stavanger, sy'n arwain grŵp arbenigol ar leihau tlodi plant:

“O’m safbwynt i o leiaf, wn i ddim am unrhyw adnodd sy’n fwy effeithiol nag addysg plant yn y blynyddoedd cynnar, sy’n dod â nhw i mewn i gyd-destun gofal plant, lle maen nhw’n cael profiadau dysgu anogol sy'n gosod sylfaen ar gyfer dysgu am oes, sy'n bwysig iawn.”

Mae Llywodraeth y DU yn cynyddu gwariant ar ofal plant yn Lloegr ac felly bydd Llywodraeth Cymru yn cael cyllid ychwanegol.

Mae'r Pwyllgor yn galw am ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ariannu gofal plant cyson a fforddiadwy ac iddi ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwneud hyn erbyn Gorffennaf 2024.

Bydd gofyn nawr i Lywodraeth Cymru ymateb i adroddiad y Pwyllgor.