Mae angen gweithdrefnau cyllidebol newydd yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 09/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/03/2015

Mae Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi nodi nifer o gamau gweithredu sy'n angenrheidiol yn ei farn ef i sicrhau bod prosesau cyllidebol effeithiol ar waith ar gyfer craffu ar y pwerau ariannol sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Cymru 2014.

Mae'r Pwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion ar ôl ystyried tystiolaeth ysgrifenedig a thystiolaeth lafar gan dystion, gan gynnwys Ysgol Fusnes Caerdydd, Ysgol Economeg Llundain, Swyddfa Swyddog Cyllideb Seneddol Canada a'r Biwro Cynllunio Canolog ar gyfer Polisi Economaidd yr Iseldiroedd.

Dywedodd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

"Datganoli pwerau ariannol, gan gynnwys y gallu i godi arian drwy drethu yw un o'r newidiadau cyfansoddiadol pwysicaf yng Nghymru. Bydd y modd y caiff y newidiadau hyn eu rhoi ar waith yn hanfodol bwysig.

"Edrychwyd ar ba weithdrefnau sy'n angenrheidiol, a gwnaethpwyd nifer o argymhellion a fydd, gobeithio, yn llywio gweithdrefnau, gan gynnwys gweithdrefn gyllidebol newydd, dangosyddion lles, a phennu targedau ac allbynnau. Gobeithio y bydd canfyddiadau'r Pwyllgor yn cynorthwyo i sicrhau y bydd proses ddiwygiedig o ran y gyllideb wedi'i seilio ar gytundeb trawsbleidiol yn y Cynulliad, ac edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio gyda Llywodraeth Cymru i wireddu hyn.

Arferion Gorau o ran y Gyllideb Rhan 2 - Cynllunio gweithdrefnau cyllidebol newydd a’u rhoi ar waith (PDF, 668KB)