Mae angen gwneud mwy o gynnydd i wella presenoldeb ac ymddygiad mewn ysgolion ledled Cymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 08/08/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mae angen gwneud mwy o gynnydd i wella presenoldeb ac ymddygiad mewn ysgolion ledled Cymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

08 Awst 2013

Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi canfod bod angen gwneud mwy o gynnydd i wella presenoldeb ac ymddygiad disgyblion mewn ysgolion yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor wedi galw ar Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth presenoldeb ac ymddygiad genedlaethol gyffredinol i ddatblygu'r arfer da sy'n bodoli eisoes.

Roedd y Pwyllgor yn siomedig, er bod sylw wedi'i roi i faterion sy'n ymwneud â phresenoldeb ac ymddygiad disgyblion, y bu'r cynnydd yn anghyson a bod problemau o hyd y mae angen mynd i'r afael â hwy. Mae'r rhain yn cynnwys y materion a nodwyd yn yr Arolwg Presenoldeb ac Ymddygiad Cenedlaethol, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2008.

Nododd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc anghysonderau yn nulliau gweithio y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru ac, er ei fod yn derbyn nad oes ateb sy'n addas i bawb, mae'n credu nad oes digon yn cael ei wneud i rannu'r arfer gorau.

Mae'n argymell y dylid archwilio buddion cael model consortia rhanbarthol fel sbardun addas ar gyfer sicrhau newid o'r fath.

Clywodd y Pwyllgor bod cynnwys cyfraddau presenoldeb ac ymddygiad yn y meini prawf ar gyfer y system bandio ysgolion wedi cael effaith bositif o ran ceisio gwella safonau.

Mynegwyd pryderon ynghylch lefel y cymorth a'r hyfforddiant sydd ar gael i athrawon mewn gwahanol rannau o Gymru ar gyfer ymdrin ag ymddygiad sy'n peri problem. Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylid cynnwys technegau rheoli ymddygiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn hyfforddiant cychwynnol athrawon ac fel rhan o'u datblygiad parhaus.

Yn ogystal â chlywed gan ystod o sefydliadau, cynhaliwyd grwpiau ffocws gyda 181 o blant a phobl ifanc rhwng naw a 23 oed o bob rhan o Gymru.

Meddai Lynne Neagle AC, aelod o’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc: “Rydym yn ddiolchgar iawn i'r plant a'r bobl ifanc a roddodd o'u hamser i rannu eu barn a'u profiadau gyda ni ac sy'n ymrwymedig i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar faterion sy'n cael effaith mor uniongyrchol ar ddisgyblion unigol a'u teuluoedd.

“Mae gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd gydag addysg o safon uchel ac amgylchedd dysgu cadarnhaol.

“Mae'r system bresennol, sef, mewn gwirionedd, 22 o gynlluniau gwahanol i wella'r safonau hyn, yn anghyson ac mae perygl y caiff cyfleoedd eu methu, felly rydym yn annog awdurdodau lleol yng Nghymru i wneud mwy i rannu enghreifftiau o arfer gorau.

“Rydym hefyd yn pryderu ynghylch y dulliau amrywiol o ddarparu hyfforddiant a chymorth i athrawon ar reoli ymddygiad gwael ac rydym wedi argymell y dylai technegau sy'n seiliedig ar dystiolaeth fod yn rhan o hyfforddiant cychwynnol pob athro a'i ddatblygiad parhaus.

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 11 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth presenoldeb ac ymddygiad genedlaethol gyffredinol sy'n datblygu'r arfer da sy'n bodoli eisoes ac y gellir monitro cynnydd yn ei herbyn yn rheolaidd.

  • Dylid rhoi mwy o bwyslais ar hyfforddiant rheoli ymddygiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth o fewn hyfforddiant cychwynnol athrawon. Dylai modiwlau rheoli ymddygiad disgyblion sy'n seiliedig ar dystiolaeth fod yn elfen graidd mewn datblygu proffesiynol parhaus hefyd; a,

  • Dylai'r model consortia rhanbarthol gael rôl sydd wedi'i ddiffinio'n well o ran gwella presenoldeb ac ymddygiad disgyblion.