Mae angen i bobl anabl yng Nghymru allu ymgysylltu’n

Cyhoeddwyd 06/09/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Mae angen i bobl anabl yng Nghymru allu ymgysylltu’n well a’r broses ddemocrataidd

6 Medi 2010 Mae pobl anabl yn aml yn teimlo eu bod wedi’u hallgau o’r broses ddemocrataidd yng Nghymru oherwydd na ddarperir ar gyfer eu gofynion penodol. Dyna oedd ymateb y rhai a oedd yn cymryd rhan mewn fforwm a drefnwyd gan Gomisiwn y Cynulliad a gynhaliwyd i nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl. Dywedodd y Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC: “Rhoddodd y cydweithio rhwng grŵp llywio o bobl anabl a sefydliadau sy’n rhoi cymorth i bobl anabl gyfle i ni wneud argymhellion ar gyfer ymgysylltu a democratiaeth yn haws ac i’r un graddau. “Roedd hyn yn amserol oherwydd, y flwyddyn nesaf, bydd tri cyfle pwysig i bleidleisio – yn y refferendwm ar bwerau gwneud deddfwriaeth y Cynulliad Cenedlaethol, yn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol, ac hefyd yn y bleidlais ar sut y caiff Aelodau Seneddol eu hethol i San Steffan. “Un o’n hamcanion strategol allweddol yw cynyddu’r rhan y mae pobl Cymru – gan gynnwys grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, fel pobl anabl – yn ei chwarae yn y broses wleidyddol.” Cynhaliodd  Cynulliad Cenedlaethol Cymru gynllun mentora llwyddiannus iawn eleni mewn partneriaeth a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, o’r enw Camu Ymlaen Cymru, lle roedd y rhai a oedd yn cymryd rhan yn cysgodi Aelodau’r Cynulliad. Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol fforwm anabledd staff gweithgar iawn hefyd a Fforwm Defnyddwyr Anabl allanol sy’n helpu i ddarparu gwybodaeth er mwyn gwella gwasanaethau a chyfleusterau’r Cynulliad. Mae hyn wedi cynorthwyo’r Cynulliad i ddarparu gwasanaethau cynhwysol a hygyrch sy’n galluogi pawb yn y dywysogaeth i ymgysylltu a sedd democratiaeth Cymru. Fodd bynnag, mae’r adroddiad Dringo’r Wal yn gwenud yr argymhellion canlynol: -y dylai Comisiwn Etholiadol y DU archwilio’r defnydd o dechnoleg a fformata u amgen i wneud y prosesau cofrestru a phleidleisio mewn etholiadau yn fwy hygyrch i bobl anabl. Gellid defnyddio mwy ar y templedau ar gyfer pobl sydd a nam ar eu golwg drwy osod mwy o Braille arnynt. Gellid defnyddio ffonau a negeseuon testun i gofrestru pleidleiswyr. Gellid defnyddio peiriannau pleidleisio electronig mewn gorsafoedd pleidleisio sydd a negeseuon a gwybodaeth clyweledol. -y dylai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r Swyddogion Canlyniadau sicrhau bod y gorsafoedd pleidleisio ledled Cymru yn fwy hygyrch a bod ganddynt arwyddion hygyrch, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, a bod gorsafoedd pleidleisio ledled Cymru yn hygyrch i bobl sydd a nam ar eu synhwyrau neu nam corfforol. Dylai staff gael hyfforddiant ar gydraddoldeb i bobl anabl a gwybodaeth am y cymorth cyfathrebu sydd ar gael i’w galluogi i ddarparu gwasanaeth sy’n hygyrch i gwsmeriaid. -y dylai’r pleidiau gwleidyddol, y Comisiwn Etholiadol a’r CLlLC sicrhau eu bod yn darparu gwybodaeth mewn fformatau eraill, gan gynnwys Braille, Typetalk, e-bost, Easyread, cyfathrebu wyneb yn wyneb ac Iaith Arwyddion Prydain. Dylai gwefannau fod yn hygyrch i bob defnyddiwr a dylai pobl fyddar a phobl sydd a nam ar eu golwg allu eu defnyddio. -efallai yr hoffai pleidiau gwleidyddol ystyried darparu hyfforddiant i’w haelodau ar gydraddoldeb i bobl anabl, sgiliau cyfathrebu hygyrch, a darparu gwybodaeth mewn fformatau hygyrch. Dylai gwleidyddion ddefnyddio Cymraeg/Saesneg clir a syml a dylent osgoi defnyddio jargon. Gofynnodd rhai o’r rheini a fynychodd y fforwm gwestiynau ynghylch yr anawsterau roeddent wedi’u hwynebu o ran rhoi gwybod i rhywun am droseddau casineb yn erbyn pobl anabl. Gwnaethant amlygu’r problemau a ganlyn: -maent yn ofni rhoi gwybod i rhywun os oes rhywun wedi aflonyddu arnynt oherwydd eu hanableddau ac maent yn ofni y gallai’r tramgwyddwyr aflonyddu arnynt eto; -mae’n ymddangos nad oes gan swyddogion yr heddlu ddigon o hyfforddiant i ddelio ag achosion o droseddau casineb a bod ganddynt ddiffyg dealltwriaeth o anableddau pobl; -yr amser y mae’r heddlu yn ei gymryd i ymateb i achosion o droseddau casineb.

Gwybodaeth Hygyrch

Mae'r adroddiad llawn ar gael yma. Mae’r wybodaeth hon ar gael mewn fformatau hygyrch, gan gynnwys fformat sain, print bras a Braille ar gais. Cysylltwch a’r Tim Cydraddoldeb a Mynediad: E-bost:equalities.team@wales.gsi.gov.uk Ffon: 02920 898650.