Mae angen i Gymru ddarparu technolegau newydd, yn hytrach na'u defnyddio yn unig, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 17/08/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/08/2018

Bydd heriau awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial yn ffactor mawr yn y 40 mlynedd nesaf ac mae'n hanfodol bod Cymru yn barod i arwain yn y dyfodol, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

 Manufacturing-production-line

Daeth y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau i'r casgliad bod angen i Lywodraeth Cymru nodi meysydd y mae gan Gymru fantais gystadleuol ynddynt, a buddsoddi yn y meysydd hynny - er enghraifft, lled-ddargludyddion cyfansawdd, yswiriant a gofal iechyd - a chefnogi'r sectorau i arwain y diwydiant ar lefel fyd-eang.

Ymhlith meysydd eraill, edrychodd y Pwyllgor yn ei ymchwiliad ar amaethyddiaeth fanwl, cerbydau awtonomaidd a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol er mwyn bod yn gystadleuol.

Canfu y bydd angen newid cwricwlwm ysgolion i roi ystyriaeth i'r sgiliau newydd y bydd eu hangen gan yr amcangyfrifir y bydd 65 y cant o blant ysgol cyfredol yn gwneud swyddi sydd heb gael eu creu eto.

"Mae'r corff cynyddol o astudiaethau ac adroddiadau ynghylch awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial yn rhoi ystod o ganlyniadau," meddai Russell George AC, Cadeirydd y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau.

"Mae'n amlwg y bydd methu â pharatoi yn cyfateb i baratoi i fethu yn y byd newydd hwn.

"Rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn esgor ar drafodaeth – nid ymhlith y sawl mewn pŵer yn unig, ond ymysg ystod eang o fusnesau, ar draws sectorau ac allan yn strydoedd Cymru."

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y bydd awtomeiddio yn cymryd lle oedolion sydd mewn gwaith ar hyn o bryd, gan ei gwneud yn ofynnol iddynt ailhyfforddi. Bydd angen rhoi cymorth i'r rhai sy'n wynebu'r risg mwyaf. Mae nifer y swyddi y disgwilir eu colli yn sylweddol gydag un tyst yn disgrifio'r trawsnewid technolegol a chymdeithasol o fewn 20 mlynedd i fod yn fwy na dim a welwyd erioed o'r blaen gan gynnwys, er enghraifft, yr hyn a welwyd yn y meysydd glo dros gyfnod penodol.

Dywedodd Mr George:

"Gall heriau awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial fod yn rhai o'r prif faterion dros y 30-40 mlynedd nesaf. Mae'n hollbwysig bod Cymru yn barod i ymateb, yn ogystal â gallu llywio'r ddadl fel y gallwn eu defnyddio i yrru ein hwyliau, yn hytrach na chael ein chwythu ymaith gan wyntoedd cryfion newid."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 12 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • Mae'r Pwyllgor o'r farn ei bod yn hanfodol i ragor o waith gael ei wneud i sicrhau bod Cymru yn darparu technolegau newydd, yn ogystal â'u defnyddio. Dylai Llywodraeth Cymru wneud gwaith i:

  • nodi'r arbenigedd a'r cryfderau masnachol sydd yng Nghymru, er enghraifft, ym maes lled-ddargludyddion cyfansawdd, yswiriant a gofal iechyd;

  • nodi manteision cystadleuol Cymru yn y meysydd twf a ragwelir;

  • cefnogi'r sectorau hynny i fod ar flaen y gad yn y diwydiant byd-eang lle y mae cryfderau a mantais gystadleuol yn cyd-fynd â thwf a ragwelir yn y dyfodol.

Bydd y Pwyllgor yn gwneud rhagor o waith yn y maes hwn gan edrych yn fanylach ar sectorau penodol dros y misoedd nesaf, gan edrych ymlaen yn eiddgar at adolygiad Llywodraeth Cymru dan arweiniad yr Athro Phil Brown.

Darllenwch yr adroddiad llawn yma.