Mae angen i'r Grant Datblygu Disgyblion gael ei dargedu a'i fonitro'n well er mwyn sicrhau gwerth am arian, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 20/06/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/01/2019

Dylai cyllid i helpu disgyblion o gefndiroedd difreintiedig wella cyrhaeddiad addysgol gael ei dargedu'n well a'i asesu'n rheolaidd am werth am arian, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

 

Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi bod yn edrych ar effaith Grant Datblygu Disgyblion (PDG) Llywodraeth Cymru sy'n cynnig arian ychwanegol i bob disgybl sy'n gymwys i gael cinio ysgol am ddim.

Mae'r grant yn costio £94 miliwn y flwyddyn, ac er bod y Pwyllgor wedi dod i'r casgliad bod Llywodraeth Cymru yn iawn i ddefnyddio'r PDG, roedd yn pryderu ar ôl clywed tystiolaeth gan y corff gwarchod ysgolion, Estyn, mai dim ond dwy ran o dair o ysgolion Cymru oedd yn defnyddio'r arian yn effeithiol.

Yn ystod y dystiolaeth, clywodd aelodau'r pwyllgor nad yw'r PDG yn cael ei ddefnyddio ddigon i gefnogi disgyblion sy'n gymwys i gael cinio ysgol am ddim sy'n fwy abl a thalentog. Mae hyn er gwaetha'r ffaith y dylid defnyddio'r PDG i wella canlyniadau addysgol pob disgybl sy'n gymwys i gael cinio ysgol am ddim, gan gynnwys eu helpu i gyrraedd y graddau uchaf.

Clywodd y Pwyllgor hefyd fod cyllid wedi'i dargedu, fel y PDG, yn cuddio pwysau ar gyllidebau ysgolion ac nad yw'n cael ei ystyried fel adnodd ychwanegol mwyach ond, yn hytrach, yn rhan o'r cyllid craidd. Mae'r Pwyllgor wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i adolygu digonolrwydd cyllidebau ysgol, ac mae'r Pwyllgor yn bwriadu gwneud gwaith ei hun ar y maes hwn hefyd.

Roedd ymchwiliad y Pwyllgor yn edrych ar effaith y PDG ar gyrhaeddiad, a goblygiadau newidiadau i'r ffordd y caiff perfformiad ysgolion ei fesur. Fe wnaeth y bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion sy'n gymwys i gael cinio ysgol am ddim a disgyblion eraill leihau ar ôl cyflwyno'r PDG, ond dangosodd ymchwiliad y Pwyllgor fod y bwlch eisoes yn lleihau cyn hynny.

Mae'r PDG wedi cael ei ymestyn hefyd i gynnwys disgyblion a oedd yn gymwys i gael cinio ysgol am ddim yn y ddwy flynedd ddiwethaf, ond nid mwy. Ond, canfu'r Pwyllgor nad oedd unrhyw gyllid ychwanegol wedi'i ddarparu i ateb y galw newydd hwn. Yn yr un modd, gall y PDG a ddarperir i Blant sy'n Derbyn Gofal gael ei ddefnyddio ar gyfer plant sydd wedi'u mabwysiadu hefyd, ond nid oes arian ychwanegol wedi'i ddarparu ar gyfer hyn. Mae hynny'n golygu bod awdurdodau addysg naill ai ddim yn targedu'r arian ar blant wedi'u mabwysiadu, neu'n glastwreiddio cyllid PDG, gan dynnu adnoddau gan Blant eraill sy'n Derbyn Gofal, i bob pwrpas. Mae'r Pwyllgor wedi galw am ddull mwy strategol i'r PDG ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal a phlant wedi'u mabwysiadu.

"Mae'r cyswllt rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad wedi'i hen sefydlu," yn ôl Lynne Neagle AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

"Mae torri'r ddolen hon wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ers blynyddoedd lawer.

"Mae'r Pwyllgor yn cefnogi'r defnydd o'r Grant Datblygu Disgyblion i helpu i leihau'r bwlch rhwng disgyblion o dan anfantais a difreintiedig a'u cyfoedion, ond rydym o'r farn bod angen gwneud llawer mwy i sicrhau bod y cyllid hwn yn helpu disgyblion mwy abl o gefndiroedd difreintiedig i gael y graddau uchaf."

Edrychodd y Pwyllgor hefyd ar y rhaglen Her Ysgolion Cymru, sydd bellach wedi dod i ben, a oedd yn darparu cyllid a chymorth ychwanegol i 39 o ysgolion a oedd yn tanberfformio yng Nghymru.

Penododd Llywodraeth Cymru yr Athro Mel Ainscow, a oedd wedi datblygu cynllun llwyddiannus tebyg ym Manceinion, i arwain y rhaglen. Ond penderfynodd Llywodraeth Cymru ddod â'r rhaglen i ben ar ôl tair blynedd a chyn cyhoeddi canlyniadau gwerthusiad perfformiad a gomisiynwyd gan y Llywodraeth.

Roedd rhai oedd yn feirniadol o'r penderfyniad yn dweud bod Her Ysgolion Cymru wedi dod i ben yn rhy fuan a bod modelau tebyg a ddefnyddiwyd yn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig wedi cael mwy o amser i godi safonau. Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y consortia rhanbarthol, a sefydlwyd yn 2012, bellach mewn sefyllfa dda i gymryd drosodd y cymorth i ysgolion sy'n tanberfformio fwyaf yng Nghymru fel rhan o'u swyddogaethau ar gyfer gwella ysgolion yn gyffredinol.

Dywedodd Lynne Neagle AC:

"Sefydlodd Llywodraeth Cymru Her Ysgolion Cymru i gydnabod bod angen her a chymorth wedi'u targedu a'u teilwra ar rai o'n hysgolion er mwyn gwella a sicrhau bod disgyblion yn cael y cyfle gorau i wneud yn dda. 

"Roedd canlyniadau ymysg yr ysgolion yng Nghymru yn gymysg, ond roedd y Pwyllgor yn pryderu bod y rhai sy'n gwneud cynnydd da yn peryglu colli momentwm gan fod y rhaglen wedi dod i ben erbyn hyn. Rhaid i Lywodraeth Cymru a'r consortia rhanbarthol sicrhau nad yw hyn yn digwydd.

"Mae hefyd yn aneglur i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru yn dysgu gwersi o raglen Her Ysgolion Cymru.

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 31 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru asesu'n rheolaidd faint o fuddsoddiad sydd ei angen ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion o ran gwerth am arian a chost cyfle. Yn benodol, dylai Llywodraeth Cymru fonitro'n barhaus effaith y Grant Datblygu Disgyblion ar y disgyblion y mae wedi'i dargedu tuag atynt;

  • Os yw Llywodraeth Cymru am i ysgolion ddefnyddio'r Grant Datblygu Disgyblion ar ddisgyblion sydd wedi bod yn gymwys i gael cinio ysgol am ddim ar unrhyw adeg yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, dylai ariannu dyraniadau PDG ysgolion ar y sail honno, h.y. fesul disgybl sydd wedi bod yn gymwys i gael cinio ysgol am ddim ar unrhyw adeg yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, yn hytrach na disgwyl i ysgolion gefnogi disgyblion ychwanegol o ddyraniad grant yn seiliedig ar gipolwg blwyddyn o gymhwysedd disgyblion sy'n gymwys i gael cinio ysgol am ddim.

  • Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau ei bod yn ariannu dyraniadau'r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal a phlant mabwysiedig i bob consortiwm rhanbarthol fesul Plentyn sy'n Derbyn Gofal a phlentyn mabwysiedig hysbys ym mhob rhanbarth. Lle nad yw union nifer y plant mabwysiedig yn hysbys, dylid defnyddio'r amcangyfrif gorau;

  • Dylai Llywodraeth Cymru, ar y cyd â'r consortia rhanbarthol, gysylltu â'r prif bobl oedd yn ymwneud â darparu Her Ysgolion Cymru, gan gynnwys yr Athro Mel Ainscow, i drafod pa wersi y gellid eu dysgu o'r rhaglen a mentrau gwella eraill ysgolion ac, yn dilyn hynny, eu cymhwyso yn gyffredinol ar draws yr ysgolion sydd angen gwella.

 

 

   


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Cyrraedd y nod? Cyllid wedi’i dargedu i wella canlyniadau addysgol (PDF, 8 MB)