Mae angen rhagor o arweiniad ar rieni Cymru ynghylch iechyd deintyddol eu plant
22 Chwefror 2012
Mae Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o gymorth i rieni i sicrhau eu bod yn deall y rhan bwysig sydd ganddynt i’w chwarae wrth sicrhau iechyd deintyddol eu plant.
Mae pydredd dannedd yn effeithio ar nifer sylweddol o blant ysgol, ac mae lefelau’r clefyd ar eu huchaf mewn ardaloedd difreintiedig, a chanfu Aelodau’r Pwyllgor bod angen rhoi negeseuon mwy cyson i rieni ynghylch pwysigrwydd sicrhau bod fflworid yn cael ei roi ar ddannedd plant fel rhan o’r arfer dyddiol o frwsio dannedd gartref.
Mae hwn yn un o 10 o argymhellion a wnaed yn sgîl ymchwiliad y Pwyllgor i iechyd y geg mewn plant, a oedd yn edrych ar ba mor effeithiol yw rhaglen Cynllun Gwên
Llywodraeth Cymru o ran gwella iechyd y geg mewn plant yng Nghymru, yn arbennig y rheini mewn ardaloedd difreintiedig.
Cafodd y Cynllun Gwên
ei lansio ar 30 Ionawr 2009, fel rhaglen genedlaethol Llywodraeth Cymru i wella iechyd y geg mewn plant. Mae tair elfen i’r rhaglen: cynllun brwsio dannedd o dan oruchwyliaeth i blant 3-5 oed; rhaglen hyrwyddo i blant 6-11 oed; a darparu rhaglen iechyd y geg o enedigaeth hyd at 3 oed.
Wrth lansio’r adroddiad yn Ysgol Gynradd Parc Jenner yn y Barri ddydd Mercher 22 Chwefror, dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor, fod y lefel o bydredd dannedd ymysg plant yng Nghymru yn annerbyniol o uchel.
Dywedodd Mrs Chapman, “Er bod modd ei atal, pydredd dannedd yw’r clefyd mwyaf cyffredin o hyd ymysg plant, ac mae iechyd deintyddol plant Cymru ymysg y gwaethaf yn y DU.
“Mae pydredd dannedd yn effeithio ar nifer sylweddol o blant ysgol, ac mae lefelau’r clefyd ar eu huchaf mewn ardaloedd difreintiedig.
“Mae’r dystiolaeth a gasglwyd hyd yma yn awgrymu bod nifer dda wedi manteisio ar y Cynllun Gwên
.
“Ond, mae’n edrych fel be bai’r cynllun yn methu ychydig o ran yr elfen brwsio gartref, a dyna pam mai un o’n hargymhellion yw sicrhau y caiff rhieni ragor o wybodaeth am ba mor bwysig yw iechyd y geg.”
Mae’r adroddiad hefyd yn argymell yr hyn a ganlyn:
Dylai Llywodraeth Cymru nodi sut mae’n bwriadu gwella iechyd y geg ymysg holl blant Cymru, yn cynnwys y rhai nad ydynt yn cael eu targedu ar hyn o bryd gan y
Cynllun Gwên,
a pha rôl y bydd y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn ei chwarae yn hyn;Dylai Llywodraeth Cymru ystyried y dystiolaeth o blaid ymgorffori’r
Cynllun Gwên
yng nghwricwlwm yr ysgolion i sicrhau ei fod yn cael ei integreiddio’n well gyda chynlluniau fel Ysgolion Iach;Dylai Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i gontract deintyddol y GIG fel bod modd integreiddio gwaith ataliol a thriniaeth yn well ar draws practisiau deintyddol, a sicrhau ei fod yn annog deintyddion i wneud gwaith ataliol gyda phlant.