Dylai Llywodraeth Cymru baratoi strategaeth dlodi ar gyfer Cymru yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol.
Mewn adroddiad newydd ar Gymunedau yn Gyntaf, sef cynllun blaenllaw Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi sy’n dod i ben yn gynharach eleni, mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ailadrodd ei safbwynt.
Mae rhyw 700,000, sef bron chwarter ein poblogaeth, yn byw mewn tlodi yng Nghymru, gan gynnwys 30 y cant o'r holl blant –sy’n fwy na’r gyfran yn unrhyw un o wledydd eraill y DU.
Mae Sefydliad Joseph Rowntree yn amcangyfrif bod £3.6 biliwn yn cael ei wario bob blwyddyn yng Nghymru i ymdrin â chanlyniadau cymdeithasol tlodi - sy'n cyfateb i £1,150 am bob un sy’n byw yn y wlad.
Gwrthododd Llywodraeth Cymru argymhelliad y Pwyllgor ynglŷn â pharatoi strategaeth dlodi gan honni bod y broblem yn drawsbynciol ac y dylai pob adran ei hystyried.
Roedd y Pwyllgor yn siomedig â'r ymateb cyffredinol iawn hwn nad oedd yn cynnwys unrhyw fanylion gwirioneddol.
"Mae'r ffigurau sy'n ymwneud â thlodi yng Nghymru yn eglur ac yn troi’n fwy grymus os peidiwch â meddwl amdanynt fel ffigurau, ond fel pobl," meddai John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
"Ni ddiflannodd tlodi pan benderfynwyd dod â Chymunedau yn Gyntaf i ben. Mae'r pwyllgor hwn yn glir bod angen strategaeth dlodi fanwl i helpu’r rhai sy'n cael bywyd yn anodd yng Nghymru.
"Nid ydym wedi’n hargyhoeddi gan safbwynt Llywodraeth Cymru, sef bod ei dull trawsbynciol o weithredu, sy’n rhoi cyfrifoldeb ar bob adran i fynd i’r afael â’r broblem, yn golygu na fyddai’n briodol cynhyrchu strategaeth benodol.
"Rydym yn bwriadu ystyried yr holl faterion a’r polisïau’n ymwneud â thlodi yn ystod y Cynulliad hwn i fonitro cynnydd y Llywodraeth."
Yn ei adroddiad blaenorol ar raglen Cymunedau yn Gyntaf, galwodd y Pwyllgor ar gynghorau i nodi'r holl raglenni sy'n cael eu darparu ar hyn o bryd gan Gymunedau'n Gyntaf ac y dylai gwasanaethau cyhoeddus eraill eu darparu. Dylid eu trosglwyddo i'r gwasanaethau cyhoeddus perthnasol cyn gynted ag y bo modd, yn ôl y Pwyllgor.
Daeth i’r casgliad hefyd ei bod yn anodd gwneud asesiad cyffredinol o lwyddiant rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, a fu’n rhedeg am bymtheg mlynedd ac y buddsoddwyd £432 miliwn ynddi er mwyn mynd i’r afael â thlodi, oherwydd diffyg trefniadau rheoli perfformiad.