Mae cyfrifon ac adroddiadau blynyddol cyrff cyhoeddus yn dod yn fwy tryloyw a hygyrch yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi bod yn archwilio cyfrifon pump sefydliad sector cyhoeddus ar gyfer 2015-16, sef Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Estyn, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a Gyrfa Cymru.
Mae hyn yn dilyn gwaith y pwyllgor blaenorol i graffu ar gyfrifon dros y ddwy flynedd diwethaf.
Canfu'r Pwyllgor ei bod yn dod yn haws, ar y cyfan, deall sut y mae arian trethdalwyr yn cael ei wario a pha mor effeithiol ydyw.
Fodd bynnag, mynegwyd pryderon ynglŷn â gallu rhai cyrff i gynllunio ar gyfer yr hirdymor, yn enwedig yn achos Estyn, am nad yw'n gallu cadw unrhyw gronfeydd ac felly nid yw'n gallu nodi arbedion i fynd i'r afael â thoriadau i'r gyllideb yn y dyfodol.
Mae'r gallu i gynllunio dros y tymor canolig yn fuddiol ym marn y Pwyllgor, a thra bod yr aelodau'n deall y cyfyngiadau sy'n rhwystro Llywodraeth Cymru wrth ddyrannu'r gyllideb, maent yn annog Llywodraeth Cymru i hwyluso'r angen i gynllunio dros gyfnod hwy na bob blwyddyn.
Bu'r Pwyllgor hefyd yn edrych ar y trefniadau o ran diswyddo gwirfoddol yn y gwahanol sefydliadau, gan ddod i'r casgliad bod yn rhaid gwerthuso'r defnydd o'r cynlluniau hyn yn seiliedig ar fwy nag arbedion cost, a bod yn rhaid ystyried yr effaith ehangach ar dimau.
Ystyriwyd y gwaith o gofnodi absenoldeb oherwydd salwch hefyd ac argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru rannu'r arfer gorau o ran cofnodi absenoldeb oherwydd salwch ar ôl ei chael hi'n anodd cymharu'r cyfraddau absenoldeb yn y sefydliadau gwahanol yn gywir.
“Mae'r Pwyllgor yn fodlon bod cynnydd ar waith o ran cyflwyno cyfrifon clir a hygyrch gan sefydliadau sector cyhoeddus," meddai Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
“Gobeithio y bydd ein gwaith wrth graffu ar y cyfrifon hyn, ynghyd â gwaith y Pwyllgor blaenorol, yn cael effaith 'ataliol' o ran sicrhau bod sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru yn teimlo pwysau ar bob lefel i sicrhau bod arian trethdalwyr yn cael ei wario yn y ffyrdd mwyaf effeithiol posibl.
“Er i'n hymchwiliad eleni ganolbwyntio'n bennaf ar y sector addysg, byddem yn gobeithio y byddai holl gyrff y sector cyhoeddus yn nodi ein hargymhellion ac yn mabwysiadu dull tryloyw wrth baratoi eu cyfrifon eu hunain yn y dyfodol.”