“Mae hyn yn fy ysgogi hyd yn oed yn fwy i ragori” – Mahima Khan, prentis Senedd Cymru ar restr fer Gwobrau Prentisiaeth BAME

Cyhoeddwyd 12/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/11/2020

​Mae Mahima Khan, un o brentisiaid Senedd Cymru, wedi ennill clod uchel am ei gwaith caled a'i hymroddiad drwy gyrraedd rownd derfynol Gwobrau Prentisiaeth BAME 2020 y DU.   

Pwrpas y Gwobrau Prentisiaeth BAME blynyddol yw arddangos a dathlu cyfraniad rhagorol gan brentisiaid du a lleiafrifoedd ethnig. Cafodd seremoni rhithwir ei gynnal eleni ar nos Fercher 11 Tachwedd. Cafodd Mahima Khan, sy'n 20 oed ac o Gaerdydd, ei henwi ymhlith y rhestr fer am wobr Prentis Gwasanaethau Cyhoeddus y Flwyddyn 2020. 

Gyda dros 300 o enwebiadau gan ymgeiswyr ar draws y DU dros ystod eang o gategorïau,  roedd Mahima wedi wynebu cystadleuaeth frwd er mwyn cyrraedd y rownd derfynol. 

"Penderfynais ymgeisio am brentisiaeth gan fy mod I'n credu nad mynd i Brifysgol yw'r unig lwybr i ddatblygu gyrfa. Cefais fe nennu at Senedd Cymru am ei fod yn gorff cyhoeddus rhagorol a allai elwa o gael pobl o gefndiroedd BAME ymhlith y gweithlu, er mwyn cryfhau cysylltiad gyda'r gymuned a a chynrychioli'r bobl mae yn ei wasanaethu.

"Rwy wrth fy modd fy mod i wedi cyrraedd rhestr fer ar gyfer y wobr yn y categori Elusennau, Sefydliadau Gwirfoddol a Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae bod yn y rownd derfynol ar gyfer gwobr lefel genedlaethol yn golygu mod i wedi wynebu cystadleuaeth galed iawn yn erbyn prentisiaid gwych eraill o lawer o sefydliadau gwahanol. Oherwydd hyn rwy'n fwy penderfynol nag erioed i ragori - mae Senedd Cymru yn gorff cyhoeddus anhygoel ac mae cynrychioli Cymru yn anrhydedd." - Mahima Khan, cyn-fyfyriwr yn Ysgol Uwchradd Fitzalan yng Nghaerdydd, a ymunodd â chynllun prentisiaeth y Senedd yn 2018. 

Yn ystod y brentisiaeth, bu Mahima yn gweithio ar draws tair adran wahanol yn y Senedd - Gwasanaeth Ymchwil, Addysg ac Adnoddau Dynol Bu'n datblygu sgiliau bob dydd, gyda chymorth ei chydweithwyr, tra'n astudio hefyd ar gyfer cymhwyster Lefel 2 Gweinyddiaeth Busnes. 

"Roedd y cyfnod prentisiaeth yn anhygoel ac wedi agor fy llygaid i amrywiaeth eang o gyfleoedd. Cyn dechrau roeddwn yn poeni na fyddwn yn ffitio i mewn yn y Senedd. Doedd dim angen i mi boeni oherwydd mae pawb yn gefnogol iawn," meddai Mahima.  

Ers cwblhau ei thymor fel prentis am flwyddyn, erbyn hyn mae gan Mahima swydd llawn amser yn y Senedd, fel Swyddog Cymorth Cymunedol ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Mae hi hefyd yn parhau i astudio ar gyfer cymhwyster Lefel 3 Gweinyddiaeth Busnes. 

Mae hi hefyd yn Gyd-gadeirydd Rhwydwaith REACH (Hil, Ethnigrwydd a Threftadaeth Ddiwylliannol) staff y Senedd, sy'n cefnogi amrywiaeth ymhlith y gweithle, ac ym mis Mawrth 2020, dyfarnwyd hi'n Brentis y Flwyddyn (Gweinyddiaeth Busnes) gan y Gynghrair Sgiliau Ansawdd. 

Prentisiaethau'r Senedd 

Mae cynllun prentisiaeth flynyddol y Senedd yn cynnig cyfle i ymgeiswyr astudio ar gyfer cymhwyster genedlaethol wrth weithio mewn sefydliad sydd wrth wraidd democratiaeth Cymru. Mae'r cynllun hyblyg yn darparu profiadau wedi'u teilwra: o gynorthwyo'r tîm adnoddau dynol, i gyfrannu at ymgyrchoedd cyfathrebu ac ymgysylltu, gweinyddu'r adrannau diogelwch ac adeiladu cyfleusterau a gweithio gyda thimau clercio pwyllgor y Senedd ar reng flaen y broses ddemocrataidd. 

Mae llawer o brentisiaid yn mynd ymlaen i swyddi llawn amser ac mae rhai, fel Mahima, yn llwyddo i gael swydd barhaol yn y Senedd. 

"Fel un o brentisiaid 2018, mae wedi bod yn bleser cefnogi Mahima a'r prentisiaid eraill i ddatblygu eu gyrfaoedd yma yn y Senedd. Mae cefnogi ein cyflogwyr i gyflawni'r gorau o'u gallu yn flaenoriaeth i ni ac mae'n wefreiddiol bod un o'n tîm wedi llwyddo i gyrraedd rownd derfynol y gwobrau yma o blith ymgeiswyr ledled y DU, ac yn erbyn cystadleuaeth mor galed. Rydym yn llongyfarch Mahima ar y llwyddiant haeddiannol yma, ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli pobl eraill i ystyried datblygu eu gyrfa yn y Senedd." - Lowri Williams, Pennaeth Adnoddau Dynol y Senedd

Mae gwybodaeth am gynllun prentisiaeth y Senedd ar gael ar y wefan, ble bydd manylion y cynllun ar gyfer 2021 yn cael ei gyhoeddi.