Mae mynediad i ddwr mewndirol yng Nghymru yn hawl o ran tegwch a chyfiawnder cymdeithasol

Cyhoeddwyd 15/04/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mae mynediad i ddwr mewndirol yng Nghymru yn hawl o ran tegwch a chyfiawnder cymdeithasol

Yn ôl Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae’r sefyllfa bresennol o ran mynediad i ddwr mewndirol yng Nghymru yn ddryslyd, yn anghynaladwy ac yn anymarferol; dylid sicrhau yr un mynediad cyhoeddus â’r hyn a geir yn yr Alban.

“Mae afonydd Cymru yn ‘rodd’ naturiol y dylai pawb gael yr hawl i’w mwynhau,” meddai Val Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Ni ddylai mynediad fod yn seiliedig ar fympwy hawliau a ganiateir neu’r gallu i dalu, ond ar egwyddorion tegwch a chyfiawnder cymdeithasol.

“Credwn y dylai pawb yng Nghymru gael mynediad heb ddefnyddio modur i ddwr mewndirol fel sydd yn yr Alban.”

Gwnaeth Val Lloyd y sylwadau hyn wrth i’r Pwyllgor Deisebau lansio ei adroddiad i ddeiseb a gafwyd gan Gymdeithas Canwio Cymru.  

Mae canw-wyr Cymru yn galw am eglurhad o’r mynediad cyhoeddus i ddwr mewndirol a hawl statudol i fynediad iddo yn unol â’r hyn sydd eisoes wedi digwydd yn yr Alban.

Ar ôl ymchwiliad byr, daeth y Pwyllgor i’r farn fod Deddf Diwygio Tir (yr Alban) wedi egluro’r sefyllfa yn yr Alban.

“Credwn fod y cydbwysedd hawliau clir yn yr Alban wedi bod yn hanfodol wrth ddatblygu sail fwy cynhyrchiol i’r ddadl am fynediad,” ychwanegodd Cadeirydd y Pwyllgor.

“Mae gwahanol garfanau yn yr Alban wedi gallu anghofio safiadau cul ynglyn â phwy sydd â hawliau cyfreithiol.

“Awgrymwn, felly, ei fod yn sail ddefnyddiol ar gyfer datblygu model unigryw i Gymru.”

Prif argymhellion adroddiad y Pwyllgor Deisebau yw:

  • dylai un o bwyllgorau craffu’r Cynulliad Cenedlaethol gynnal ymchwiliad pellach, ehangach gyda’r nod o gyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn, gan roi cyfle i bob rhanddeiliad gyflwyno tystiolaeth.

  • dylai ymchwiliad craffu llawn ystyried cyflwyno cod gorfodol hefyd i gyd-fynd â’r ddeddfwriaeth er mwyn gallu rheoli a rheoleiddio hawl mynediad i ddwr mewndirol yng Nghymru, gan gynnwys ymgais i ddatblygu system o adnabod defnyddwyr dwr rheolaidd.

Cam nesaf y Pwyllgor Deisebau fydd ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cynaliadwyedd a Chadeirydd y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant i ofyn a yw un ohonynt yn fodlon derbyn yr awgrym i gynnal ymchwiliad craffu llawn.

Adroddiad llawn - Ymchwiliad byr y Pwyllgor Deisebau i Fynediad i Ddwr Mewndirol