Mae pwyllgor trawsbleidiol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru wedi galw am i'r Cynulliad wrthod Bil a fyddai'n diwygio deddfwriaeth sy'n rheoli’r diwydiant parciau carafanau gwyliau yng Nghymru.
Daeth yr alwad o'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn ei adroddiad craffu Cyfnod 1 ar Fil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru).
Cyflwynwyd y Bil gan Darren Millar, AC Gorllewin Clwyd, ar ôl iddo ennill y balot i gyflwyno Bil drafft.
Mewn egwyddor, nod y Bil yw "moderneiddio'r fframwaith rheoleiddio ar gyfer safleoedd carafannau gwyliau yng Nghymru", ac mae'n ceisio "dod â'r arfer o ddefnyddio carafannau gwyliau fel preswylfa barhaol i ben, drwy ei gwneud yn ofynnol i berchnogion a meddianwyr hirdymor ddangos fod ganddynt gartref parhaol mewn man arall".
Ond mae'r pwyllgor yn argymell nad yw'r Cynulliad yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil.
Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor, "Clywsom dystiolaeth gref gan y diwydiant parciau carafannau gwyliau y gallai'r hyn a gynigir y Bil roi'r diwydiant yng Nghymru o dan anfantais gystadleuol a gyrru gweithredwyr safleoedd i Loegr".
"Mae'r diwydiant parciau carafannau gwyliau yn bwysig iawn i dwristiaeth yng Nghymru ac mae'n gwneud cyfraniad sylweddol at ein heconomi. Byddai hyn yn bris mawr i'w dalu i gyflwyno newidiadau nad ydym yn argyhoeddedig o'u hangen."
Er nad yw'r Pwyllgor yn credu y dylai'r Bil fynd yn ei flaen, mae'n galw ar i Lywodraeth Cymru "nodi cyfrwng deddfwriaethol priodol ar gyfer cyflwyno cytundebau carafannau gwyliau gorfodol" y dylid ei wneud cyn diwedd y Cynulliad hwn.
Adroddiad: Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru) (PDF, 522KB)