Mae'r cynllun 'Buddsoddi i Arbed' yn un da, ond gallai fod yn well– meddai un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu ei chynllun Buddsoddi i Arbed
.
Mae'r cynllun, a gafodd ei sefydlu yn 2009, yn caniatáu sefydliadau'r sector cyhoeddus fenthyg arian gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn rhaglenni sy'n arbed arian. Nod y cynllun yw arbed arian mewn meysydd penodol o'r sefydliad ac ad-dalu'r benthyciad i Lywodraeth Cymru, a allai ei ddefnyddio i ariannu rhagor o gynlluniau.
Cafodd Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru wybod am nifer o enghreifftiau cadarnhaol o sut mae Buddsoddi i Arbed
wedi helpu gwasanaethau iechyd, awdurdodau lleol a chyrff addysg i wneud arbedion sylweddol.
Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn anghytuno â rhai o'r argymhellion a gafwyd yng ngwerthusiad Llywodraeth Cymru o'r cynllun.
Mynegwyd pryderon am y cynnig i gyflwyno cylchau cynnig â thema. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad y byddai hynny'n cyfyngu ar rai sefydliadau.
Roedd hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru’n newid ei phenderfyniad diweddar i ddyblu isafswm trothwy Buddsoddi i Arbed i £200,000 – a dychwelyd at y trothwy gwreiddiol o £100,000. Mae tystiolaeth fanwl a gyflwynwyd i'r Pwyllgor yn dangos na fyddai rhai o'r cynlluniau llwyddiannus a fodlonodd y meini prawf o dan y swm blaenorol yn gallu gwneud hynny o dan y drefn presennol; pe na bai nhw wedi bod yn gymwys, mae’n bosibl ni fyddai'r arbedion sylweddol hyn wedi digwydd.
Dywedodd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cylllid, “Mae'r Pwyllgor yn cydnabod yr arbedion sylweddol a wnaed hyd yma drwy gynllunBuddsoddi i Arbed
Llywodraeth Cymru”.
“Mae'r dystiolaeth a glywsom yn dangos bod sefydliadau'r sector cyhoeddus yn defnyddio'r cyllid yn ddoeth ac yn greadigol i ddarparu gwasanaethau symlach, mwy effeithiol.
“Fodd bynnag, rydym ni'n anghytuno â'r argymhellion y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried o ran y cylchau cynnig â thema, a dyblu swm y trothwy y bydd modd ei fenthyg, oherwydd rydym ni o'r farn y byddai'n rhwystro cynlluniau haeddianol ac effeithlon rhag manteisio ar hyn.
“Rydym hefyd yn credu y dylai Llywodraeth Cymru wneud rhagor i rannu'r profiadau yr elwodd ohonynt drwy Buddsoddi i Arbed,
oherwydd gallai fod yn fodel i lywodraethau eraill ledled y DU.”
Gwnaeth y Pwyllgor naw o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:
Nid oeddem yn gwbl argyhoeddedig ynghylch buddion cylchau cynnig â thema ac, o gofio nad yw'r gronfa buddsoddi i arbed yn un ddi-waelod, rydym yn argymell bod cylchau cynnig yn parhau i gefnogi'r cynigion gorau, waeth beth fo'u cynnwys;
Rydym yn argymell y dylid pennu'r trothwy ar £100,000 unwaith eto er mwyn sicrhau nad yw prosiectau sydd â'r gallu i wneud arbedion sylweddol yn cael eu colli; ac,
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i hyrwyddo astudiaethau achos, yn annog sefydliadau i efelychu cynlluniau llwyddiannus, ac i hyrwyddo Buddsoddi i Arbed drwy'r Grwp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus.
Linc i ragor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyllid
Linc i ragor o wybodaeth am yr ymchwiliad Buddsoddi i Arbed